Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bob amser. Yr oedd cydymdeimlad à Mr. Davies yn ddwfn a chywir, a'r amlygiad ohono yn ddibrin. Ond ni chododd ef byth mo'i ben. Yr oedd y saeth wedi myned yn syth i'w galon, ac ni allai neb ei thynnu oddi yno. Gwerthodd ei holl dda; a'r gŵr olaf o'i hen gymdogion y bu Mr. Davies yn siarad ag ef oedd Dafydd Jones, a fyddai'n arfer torri llythrennau ar gerrig beddau.

"Dafydd Jones," ebe fe, "rhowch y geiriau yma ar y garreg sydd uwchben fy ngwraig—na hidiwch am yr oed a'r date:

Hefyd
ELIN DAVIES,
'Piser a dorrwyd ger llaw'r ffynnon.'"

A heb gymaint â chanu'n iach â'i hen gyfeillion, gadawodd Mr. Davies y wlad.