Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/146

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD XXIII

Didymus

BUASAI yn well gan yr Eos le Didymus na'i bresenoldeb, ac eto ysgydwodd ddwylo yn garedig ag ef oddi ar yr egwyddor—"Dawch, mistar, rhag eich ofn." Ceisiai'r Eos, druan, fod ar delerau da â phob dyn, ac yr oedd yn naturiol o dymer hynaws. Nid ymddangosai Dafydd Dafis mor gyfeillgar ag arferol y noson hon, a rhwng popeth, nid oedd yr Eos mor gysurus ei feddwl ag y dymunasai fod. Pa fodd bynnag, ceisiai ymddangos ac ymddwyn fel pe buasai yn y dymer orau, ac ebe fe:

"Fath Gyfarfod Misol gawsoch chwi, Dafydd Dafis?"

"Rhagorol iawn," ebe Dafydd yn sychlyd.

"Felly'n wir; oedd yno rwbeth neilltuol?" gofynnai 'r Eos.

"Oedd," ebe Dafydd, "'roedd ysbryd doethineb a phwyll yn nodweddu pob ymdrafodaeth, a gwedd wyneb yr Arglwydd ar y weinidogaeth."

"Felly'n siŵr," ebe'r Eos.

"Hyfryd ydi clywed hynny. Fu yno rw sylw ar y gymanfa ganu?"

"Naddo," ebe Dafydd, "hyd yr ydw i'n cofio, ac os bu, ddaru mi ddim sylwi."

"Felly," ebe'r Eos. "Mae'n rhyfedd bod y naill Gyfarfod Misol ar ôl y llall yn mynd heibio heb sylw yn y byd ar beth mor bwysig a'r gymanfa ganu. Pa bryd, tybed, y daw cerddoriaeth i gael y sylw a ddylai gan y Cyfarfod Misol?"

"Yr wyf wedi bod yn meddwl lawer gwaith, Dafydd Dafis," ebe Didymus, "nad idea dwl a fyddai cael côr heb neb yn perthyn iddo ond aelodau Cyfarfod Misol. Yr wyf yn siwr na roddai dim fwy o bleser i mi na gweld rhes o hen gonos fel chi, Dafydd Dafis, yn canu alto, ac 'rwyf yn siŵr, pe ffurfid côr felly, y cae chwi weld lot o flaenoriid cerddorol nad ânt byth yrwan i Gyfarfod Misol, yn cyrchu i'r cyfarfodydd gyda chysondeb. A