hwyrach y gallai'r côr gipio ambell wobr mewn 'Steddfod, a drychwch chi fel y codai hynny yr achos yn y sir?"
Bu agos i Dafydd Dafis chwerthin wrth feddwl am res o rai tebyg iddo ef ei hun yn canu alto, ac ebe'r Eos braidd yn sur:
"Rhaid i chi, Thomas, gael gneud gwawd o bopeth yn wastad. Ond waeth i chi heb siarad, 'does dim posib cael gan bregethwyr gymryd diddordeb mewn canu cynulleidfaol, ac o'u rhan nhw mi fase'r canu wedi mynd i'r cŵn ers talwm."
"Mae'n rhaid i mi gyfaddef," ebe Didymus, "fod pregethwyr y Methodistiaid yn y blynyddoedd diweddaf wedi dirywio'n fawr yn eu canu. 'Rwyf yn cofio'r amser y gallai bron bob un ohonynt ganu, ac na allai'r cynulleidfaoedd oddef pregethwr, os na fyddai'n gantwr. Ond erbyn hyn y mae'n gweinidogion fel rheol yn ymfodloni ar draethu i ni wirioneddau mawr yr Efengyl heb fod ar gân. Wrth gwrs, y mae eithriadau. Dyna wythnos i'r Sul diweddaf, yr oedd gennym bregethwr oedd hyd yn oed yn canu'r bennod."
Ni wnaeth yr Eos sylw o eiriau Didymus, a chan gyfeirio at Dafydd Dafis, ebe fe eilwaith:
"'Ddyliwn fod sylw wedi bod ar y fugeiliaeth, achos y mae'r pwnc hwnnw mewn blas gan y pregethwyr bob amser?"
"Wel, naddo; fu yno yr un gair o sôn am y fugeiliaeth yn gyhoeddus," ebe Dafydd.
"Pam yr ydech yn pwysleisio'r gair cyhoeddus'?" ebe Didymus.
"Mi ddeudaf i chi'r rheswm," ebe Dafydd. "Fe ofynnwyd cwestiwn i mi yno ddaru fy synnu a 'mrifo. Fe ofynnodd brawd i mi ai gwir oedd yr hanes fod Mr. Obediah Simon yn debyg o gael ei alw yn fugail ar eglwys Bethel; ac ni chredai'r brawd pan ddwedes na chlywis i air o sôn am hynny. Ond erbyn dwad gartre, a boli tipyn, 'rwyf yn dallt fod cryn siarad wedi bod am y gŵr heb yn wybod i mi."