"Yr ydech, fel finne, dipyn ar ôl eich oes," ebe Didymus. "Ond yn hyn yr wyf dipyn o'ch blaen chi, ac wedi clywed ers dyddiau fod amryw o aelodau eglwys Bethel wedi syrthio mewn cariad â Mr. Simon. Chwi wyddoch, Dafydd Dafis, fod cariad yn ddall, ac yn yr achos hwn, yn ddallach nag erioed, a phe buasai eich golwg chwithau dipyn byrrach, hwyrach y buasech chwithau wedi syrthio mewn cariad â'r gŵr. Sut bynnag, er mai hen lanc ydech, mi fuaswn yn disgwyl i chi, fel hen gyfaill Bethel, wybod yn un o'r rhai cyntaf pwy oedd hi'n ei garu a phwy nad oedd hi'n ei garu."
"'Does neb, tybed, a faidd wadu," ebe'r Eos, "nad ydym mewn gwir angen am fugail? Mae'n bryd i rywun symud yn y mater. Ac fel 'rydech chi wedi hintio, y mae yma lawer o sôn wedi bod am Mr. Simon er pan fu o yma'n pregethu—mae pawb wedi ei licio. Yn wir yr oeddwn i'n hoffi'r dyn yn fawr fy hun, a welais i 'run dyn cleniach na fo yn tŷ erioed."
"'Ddymunwn i," ebe Dafydd, "ddweud dim am y gŵr i awgrymu nad ydi o'n bopeth sydd arnom ei eisiau. Ac am fod yma angen am weinidog, 'does dim yn fwy amlwg. Yr wyf wedi blino ar fy sŵn fy hun yn y seiat, a 'dydech chithe, Phillips, ddim yno ond rhyw unwaith bob deufis i roi help llaw.. Mae'n bryd gwneud rhywbeth. Ar yr un pryd y mae eisiau cymryd pwyll mawr, a gweddïo llawer am gyfarwyddyd ysbryd Duw. 'Dydi dewis bugail ddim yn rhywbeth i ruthro iddo fel buwch i gogwrn.
"Does neb yn meddwl rhuthro, Dafydd Dafis,' ebe'r Eos. "'Does neb yn meddwl setlo'r cwestiwn yfory na thrennydd. Ond y mae'n bryd dwad â'r peth o flaen yr eglwys. Tybed nad ydym, er yr amser y bu Rhys Lewis farw, wedi cael digon o amser i gymryd pwyll ac i ofyn am gyfarwyddyd?"
"Phillips," ebe Dafydd, os da 'rwyf yn cofio, gyda chi yr oedd Mr. Simon yn aros pan fu yma. A ddaru i chi roi rhyw le i'r gŵr feddwl y byddai i'w enw gael ei