Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/161

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

llawer o bethau, er gwaeth mewn pethau eraill. Mae addysg wedi cynyddu yn ddirfawr, ac y mae hogiau bach erbyn hyn yn gwybod mwy am bethau cyffredin nag a wyddai dynion mewn oed ers talwm. Ond hyd yr ydw i yn dallt, 'does yr un Datguddiad newydd o bethau ysbrydol wedi ei gael. 'Chlywais i am yr un proffwyd wedi ei anfon oddi wrth Dduw i gyhoeddi fod y cyfarfod eglwysig yn afreidiol. 'Glywaist di? A chyda golwg ar y seiat fel sefydliad ag y gwnaed ac y gwneir lles dirfawr drwyddi i eneidiau dynion, nid wyf yn meddwl fod angen ei hamddiffyn; ond yn unig fel yr amddiffynnir yr Efengyl ei hun yn wyneb ymosodiadau dynion annuwiol. A hyd yn oed pe buasai'r seiat ar yr un tir â'r Ysgol Sul, sef heb yr un esiampl na gorchymyn ysgrythurol o'i phlaid, buasai rhesymoldeb a naturioldeb ei sefydliad yn cael cymeradwyaeth calon a deall pob Cristion goleuedig. A glywaist di ryw dro am ryw symudiad, neu ryw deimlad cryf ag yr oedd llawer yn cyfranogi ohono, na byddai'n diweddu mewn seiat, lle y gallai pobol drin a thrafod eu pethau cydymgynghori a chyfnewid meddyliau? Dyna'r teimlad cenedlaethol sydd wedi ei ddeffro yrwan; yr wyt ti'n un ohonyn nhw, mi dy wranta. Ond wnewch chi ddim byd ohono heb eich seiat. Ac yr ydech chi wedi dallt hynny, ac yr ydech chi, fel yr ydw i'n clywed, yn sefydlu eich seiadau ym mhob cwr o'r wlad. Os fel yna y mae hi gyda phethau cyffredin bywyd, oni ddylai crefydd gael ei seiat, ac oni ddylai pob crefyddwr fod yn aelod selog ohoni?"

"Pa nifer, Dafydd Dafis," gofynnais, "sydd o'r rhai y mae eu henwau ar lyfr yr Eglwys gyda ni yma, sydd yn rhoi eu presenoldeb yn y seiat?

"Oddeutu un rhan o dair, neu ychydig bach gwell," atebodd.

Yna," ebe fi, "pa fodd yr ydech yn rhoi cyfrif am amhoblogrwydd y seiat?" Wedi meddwl tipyn, ebe fe: