"Os nad wyf yn camgymryd, mae ein seiat ni, y Methodistiaid, cyn hyned â Methodistiaeth ei hun. Sefydlwyd hi pan oedd ein cenedl mewn dygn anwybodaeth, ond eto wedi ei deffroi gan ddynion wedi eu hanfon gan Dduw—dynion yn llawn o'r Ysbryd Glân. Yr wyf yn meddwl bod i'r seiat, ar ei chychwyniad, ddau amcan o leiaf—sef profi gwirionedd argyhoeddiad y dychweledigion, a'u cyfarwyddo mewn gwybodaeth o bethau ysbrydol. Yr oedd yr amcanion hyn yn dda a gwerthfawr. O ran ffurf, nid rhyw lawer o newid sydd wedi digwydd yn ein cyfarfodydd eglwysig. Byddaf yn meddwl bod ar yr Ysgol Sul fwy o ôl newid yr amseroedd y cynnydd mewn addysg fydol—diwylliant a moesoldeb. Ond yn ysgafn a dibwys, mi gredaf, y mae cyfnewidiadau allanol wedi cyffwrdd â ffurf ein seiat, a hwyrach fod a wnelo hyn rywbeth â'i hamhoblogrwydd. Seiat brofiad y gelwid hi ar y 'dechre, ac am brofiad yr ymofynnir eto, ac anfynych y mae i'w gael. Yr wyf yn credu bod i'r gair profiad ystyr ar y dechre na cheir mohono ond yn anaml yn awr. Ar y dechre yr oedd yn meddwl dirdyniadau'r enaid dan argyhoeddiad dwfn o bechod, neu ynte lawenydd mwynhad cymod â Duw. Mi gredaf hefyd fod i'r gair ystyr ychydig yn wahanol gan y Wesleaid ragor y Methodistiaid Calfinaidd. 'Profiad yn yr ystyr Wesleaidd ydyw—pa mor agos y bydd dyn wedi mynd i'r nefoedd, ac yn yr ystyr Galfinaidd, pa mor bell fydd o'r lle dedwydd hwnnw. Profiad y Wesley ydyw, fel y bu iddo goncro'r diafol, a phrofiad y Calfin, yn rhy fynych ydyw, fel y bu i'r diafol ei goncro ef, neu ynte nad oes ganddo ddim neilltuol ar ei feddwl. Nid oes un ohonynt, 'ddyliwn i, yn iawn, ac eto, y mae'r ddau yn iawn. Mae gan bob dyn brofiad bob dydd o'i fywyd, oblegid profiad ydyw'r hyn y bydd dyn yn ei brofi—gwir 'stad ei feddwl a'i galon gyda golwg ar bethau ysbrydol. Mae lle i ofni mai temtasiwn y Wesle ydyw, gwneud profiad dymunol, nad ydyw, mewn gwirionedd, yn ei fwynhau, ac mai temtasiwn y Calfin ydyw, ei osod ei hun yn y
Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/162
Gwedd