beiriannau. "Oblegid," meddai, "yr oedd yn rhaid edrych ar y ffaith yn ei hwyneb wrth gychwyn, y bydde'r hen elyn, sef dŵr, yn sicr o ddangos ei ddannedd, ac y bydd raid i gwmni Coed Madog ddangos iddo yntau fod dyfais dyn yn drech nag ef. "Yn wir," meddai'r Capten, "lle bynnag y mae plwm mawr, y mae yno hefyd ddŵr mawr. Mae i bob trysor, syr," meddai, "mewn natur a gras ei wyliwr eiddigus, a gwyliwr y plwm ydyw DŴR. Ond, gyda bendith a rhwydeb, ni ddygwn y caffaeliad o law'r cadarn. Medrusrwydd, amynedd, ffydd, a chalon i fentro, ac nid oes arnaf ofn na'r amheuaeth lleiaf na welir y gymdogaeth eto'n llwyddiannus, a dynion, oherwydd cyflawnder gwaith, ar ben eu digon."
Yr oedd Enoc Huws, erbyn hyn, yn ymwelydd cyson â Thy'n yr Ardd, ac wedi gorchfygu llawer ar ei swildod, a magu mwy o wroldeb nag y tybiasai erioed ei fod ganddo. Yr oedd yn iechyd i galon dyn sylwi ar y newid dymunol a ddaethai drosto. Yn lle bod â'i holl fryd ar y siop—y cyntaf yn agor a'r olaf yn cau, ac wedi cau, yn ei lusgo ei hun yn flinedig yn ei ddillad blodiog i'r offis i fygu ei getyn byr i aros amser gwely—yr oedd ef yn awr, fel masnachwr parchus ac annibynnol, yn gorchymyn cau'r siop cyn gynted ag y clywai'r gloch wyth. Yna âi'n syth i'r llofft i eillio ac ymolchi—deuai i lawr fel pin mewn papur—gosodai rosyn, os gallai gael un, yn nhwll lapel ei got; taniai ei sigâr, cymerai ffon â phen arian iddi yn ei law, ac âi am dro i Dŷ'n yr Ardd. Codai ei het yn foesgar pan gyfarfyddai â merch ieuanc a adwaenai, ac yn ad-daliad, derbyniai wên gydnabyddgar, a addfedai i chwerthiniad wedi iddo ef fyned heibio. Er y dydd y daeth Enoc gyntaf i Siop y Groes, cydnabyddid ef gan bawb. fel gŵr ieuanc da, gwylaidd, a chrefyddol, ond yr oedd gorfoesgarwch yn rhywbeth cwbl newydd yn ei gymeriad. Nid ystyriai ei gymdogion y ffaith—oedd ddigon adnabyddus erbyn hyn—sef bod Enoc yn bartner yn y fentar newydd, yn rheswm digonol am y newid sydyn a thrylwyr a ddaethai drosto, ac nid