oedd modd cyfrif amdano—yn enwedig gan y merched—ond drwy ddweud fod Enoc yn ei baratoi ei hun i fod yn ŵr i ferch y Capten Trefor. Anghwanegid eu ffydd yn ddirfawr yn y grediniaeth hon gan ffaith amlwg arall sef y newid cyfamserol yng ngwisg, dull, ac ymddygiad Miss Trefor. Yr oedd yr eneth, meddent, yn prysur ddyfod i'w hadnabod ei hun, ac yn dechrau bod fel rhyw eneth arall nid oedd yn dangos "airs "—nid oedd yn dal ei phen mor uchel—yr oedd yn dyfod i'r capel yn gyson—yn sylwi ar bawb, tlawd a chyfoethog,—yn weddus ei gwisgiad—yn ostyngedig ei hysbryd. Amlwg ydoedd, meddai ei chyfeillesau, ei bod wedi anobeithio am ŵr bonheddig yn ŵr, a'i bod yn ei chyfaddasu ei hun i fod yn wraig i fasnachwr, ac yn paratoi magl i ddal Enoc Huws, druan gŵr. Eglur ydoedd, meddai'r un awdurdodau, mai egwyddor Miss Trefor oedd lefelu i lawr, ac mai egwyddor Enoc oedd lefelu i fyny, ac mai'r canlyniad naturiol yn y man fyddai—cyd-ddealltwriaeth —canu'r clychau—taflu reis a gweiddi hwrê! Yr oedd y mater wedi ei setlo gan y cymdogesau—nid oedd dim arall yn bosibl.
Ar y cyfan yr oedd Enoc yn lled lon ei ysbryd—o leiaf yn ymddangos felly—ond da fuasai ganddo pe cawsai weledigaeth mor eglur â'i gymdogion. Prin yr âi diwrnod heibio heb i rywun neu'i gilydd ei longyfarch am ei ragolygon. Ar y dechrau, byddai hyn yn boenus iawn iddo, yn enwedig pan soniai rhai o'i gwsmeriaid diseremoni am y peth yng ngŵydd ei gynorthwywyr yn y siop. Byddai enw Miss Trefor yn peri iddo deimlo fel torth newydd ddyfod o'r popty. Ond y mae dyn yn dyfod i ddygymod â phopeth, bron, ac o dipyn i beth teimlai Enoc yn siomedig os âi diwrnod heibio heb i neb gyfeirio at deulu Ty'n yr Ardd. Yr oedd rhai o'i gwsmeriaid—mwy gonest na chall—yn beiddio siarad yn anfwyn am wrthrych ei serch, ac er na ddywedai Enoc ddim (yr oeddynt yn gwsmeriaid da) tystiai ei wyneb nad hyfryd oedd ganddo glywed eu hymddiddan, ac yn ei galon, yr oedd