yn casáu pob un a sibrydai air amharchus am Miss Trefor. Deuai un wraig dafodrydd i Siop y Groes bob nos Sadwrn pan fyddent ar fin cau. Tystiai'r wraig hon fod Enoc a Miss Trefor yr un ffunud â'i gilydd, ac er bod Enoc yn cymryd arno ei fod wedi blino ar ei stori, sylwai'r cynorthwywyr y byddai bob amser yn rhoi melysion i blant y wreigan hon.
Er mor gyffredin oedd y gred yng ngharwriaeth Enoc a Miss Trefor, yr oedd un na allai oddef sôn am y peth, ond fel chwedl ffôl a disynnwyr, a'r un honno oedd Marged, housekeeper Enoc ei hun. Cyfaddefai Marged fod ei meistr yn mynychu Tŷ'n yr Ardd yn lled gyson, ond yr oedd yn gorfod gwneud hynny, meddai hi, am ei fod wedi bod mor ffôl a dechrau mentro." Ond nid oedd hi wedi bod yn Siop y Groes am gyhyd o amser heb wybod meddwl ei meistr, ac yr oedd sôn am i'w meistr hi briodi rhyw ddoli a ffifflen anfedrus fel Miss Trefor yn groes i synnwyr cyffredin yng ngolwg Marged. Byth ar ôl y noson y dywedasai Enoc wrthi y gwnaethai hi wraig ragorol, a'i fod yn resyn o beth ei bod hi heb briodi, yr oedd y ddau wedi byw ar delerau hynod o hapus. Yr oedd Marged mor dirion a chyweithas, ac mor ofalus am ei gysuron ac am gario allan ei ddymuniadau, a hyd yn oed ei awgrymiadau, fel na allai Enoc ddyfalu rheswm am y newid dymunol hwn yn ei hymddygiad, oddieithr ar yr ystyriaeth ei bod wedi ei breintio â synnwyr newydd sbon. Rhoddai Enoc y fath bris ar y gwelliant hwn, fel y darfu iddo, un noswaith, ohono ei hun, grybwyll wrth Marged am godiad yn ei chyflog. Ond ni fynnai Marged glywed am y fath beth—yn wir, 'doedd ganddi hi, meddai, eisiau dim cyflog ond just ddigon i gael dillad symol teidi." Sylwasai Enoc, gyda phleser, fod Marged, yn ddiweddar, wedi ymdecáu cryn lawer. Tipyn o slyfen a fuasai hi bob amser, a difyr gan Enoc oedd sylwi ar geisiadau Marged i fod yn fain ei gwasg ac yn fin-gaead. Ond er gwneud ei gorau yn y ffordd hon, lled aflwyddiannus a fu ymdrechion Marged—yn enwedig gyda'r