yn y ffurf o rodd; synnwyd ef gan ei hatebiad, ac ni allai beidio â chwerthin yn ei lewys. "Wel, gan ych bod chi mor geind, mistar," ebe Marged, "mi faswn yn licio'n anwêdd gael modrwy debyg i honna sy gynnoch chi, ond heb fod mor gostus."
Yr oedd ffyddlondeb Marged mor fawr, ei diniweidrwydd plentynnaidd mor amlwg, fel na feiddiai Enoc wrthod ei chais, ac ebe fe: "Wel, gan mai dyna liciech chi, ewch i siop Mr. Swartz i brynu un, a deudwch wrtho y dof i yno i dalu. Mi gewch fodrwy go lew, Marged, am rhw bum swllt ar hugain." "Yr ydech chi'n bur garedig, mistar," ebe Marged, ac i siop Mr. Swartz â hi heb golli amser. Ond er trio llawer ni feddai Mr. Swartz fodrwy ddigon ei hamgylchedd i fys Marged, a phe buasai ef yn fasnachwr anonest, anfonasai yn ddirgel i siop yr ironmonger am fodrwy cyrten gwely. Ond ni wnaeth hynny, eithr yn hytrach cymerodd fesur ei bys i gael gwneud modrwy yn arbennig iddi. Pan glywodd Enoc gan Marged am hyn, teimlai awydd angerddol i chwerthin, ond ni feiddiai. Pa fodd bynnag, yr oedd y ddau yn cyd-fyw yn " ffamws," a dechreuai Enoc fwyn gredu, os digwyddai iddo fod yn llwyddiannus i ennill llaw a chalon Miss Trefor—ei phriodi, a'i dwyn i Siop y Groes, na fyddai raid troi Marged i ffwrdd fel yr ofnasai. Hwyrach," ebe Enoc, rhyngddo ag ef ei hun, "ei bod hithau, fel llawer eraill, yn meddwl bod popeth wedi ei wneud i fyny rhyngof fi a Miss Trefor, a'i bod hi yn ymbaratoi erbyn y bydd Miss Trefor yn Mrs. Huws; a diolch am hynny. 'Rwyf yn cofio'r amser pan fyddwn yn dychrynu wrth feddwl be ddeude Marged pe baswn yn sôn am briodi. Druan ydi Marged! Yr hen greadures ddiniwed a ffyddlon, mi licie 'ngweld i wedi priodi a setlo i lawr."
Gan fod bron bawb o'i gydnabod, yn eu tro, wedi crybwyll wrtho—rhai yn chwareus, eraill yn ddifrifol—enw Miss Trefor, synnai Enoc, weithiau, na soniodd Marged erioed amdani, nac awgrymu dim am y siarad