Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/173

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd mor gyffredin yn y gymdogaeth. A llawer tro pan ddigwyddai iddo aros yn hwyr yn Nhŷ'n yr Ardd, y disgwyliai Enoc i Marged led—awgrymu rhywbeth am yr argoelion. Ond y cwbl a ddywedai Marged fyddai: Sut mae'r gwaith mein yn dwad ymlaen, mistar? a dywedai Enoc ynddo ei hun: "Dydi hi ddim yn licio cymryd hyfdra arna i."

Aethai pethau fel hyn ymlaen yn hynod o gysurus yn Siop y Groes am amser. Yr oedd Enoc wedi gwario cryn lawer i brydferthu ei dŷ, oddi mewn ac oddi allan, a phob teclyn newydd a chwanegwyd at y dodrefn wedi derbyn cymeradwyaeth wresog Marged, ac nid oedd ond un peth yn ôl yng ngolwg Enoc i wneud ei fywyd yn berffaith gysurus. Ond byr ei barhad yw dedwyddwch dyn syrthiedig ar y gorau, ac yn aml pan fydd y cwpan yn ymddangos bron yn llawn at yr ymyl, a ninnau ar fedr drachtio gydag aidd, bydd rhyw ffawd ddrwg yn ei thorri'n deilchion yng ngwydd ein llygaid. A gorau bo'r dyn, tebycaf yn y byd ydyw i'r aflwydd hwn ddigwydd iddo, fel pe bai'r nefoedd yn rhy eiddigus i ddyn fwynhau gormod ar y byd hwn, rhag siomi ei ddisgwyliadau yn y nesaf. Gwirwyd hyn yn rhy fuan yn hanes Enoc a Marged—y ddau fel ei gilydd.