Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/176

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Na, soniais i air wrth neb erioed," ebe Marged.

"Wel," ebe Enoc, "y gwir ydyw, 'dydw i damed nes efo Miss Trefor heddiw nag oeddwn i yn y cychwyn. Mae hi'n eneth anodd iawn i'w hennill. Yr wyf, mi gyfaddefa, yn ei charu yn f——."

Nid ynganodd Enoc air arall. Dychrynwyd ef gan yr olwg oedd ar Marged. Y peth cyntaf a'i trawodd â syndod oedd ei llygaid, fyddai'n gyffredin mor ddi-fynegiad â llygaid mochyn tew; ond yn awr, agorent arno led y pen gan wreichioni tân fel llygaid teigres. Teimlai Enoc fod eu fflamau bron â'i gyrraedd, a gwthiodd ei gadair yn ôl yn ddiarwybod. Yna gwelai ei gwefusau yn glasu, a'r glesni'n ymledu dros ei holl wyneb, ond ni symudai gewyn yn ei chorff. Yr oedd Enoc wedi ei syfrdanu yn gymaint fel na allai ofyn beth oedd yr anhwyldeb oedd arni, ond credai'n sicr fod Marged wedi gorffwyllo ac ar fin rhoi llam arno a'i dynnu yn gareiau, neu ynteu ar fin cael strôc, ac nid oedd mwyach nerth ynddo, pryd y rhoddodd Marged ysgrech annaearol, megis ysgrech mil o gathod gwylltion, ac y syrthiodd fel marw ar lawr. Mewn dychryn a fu agos â bod yn angau iddo, rhuthrodd Enoc at y drws ar fedr ymofyn cynhorthwy, ond cyn agor y drws, cofiodd ei bod yn hanner nos, ac y gallai Marged druan farw tra byddai ef yn ceisio rhywun yno. Crynai ei liniau ynghyd tra'r oedd yn cymhwyso dŵr oer at wyneb Marged, ac er cymaint oedd ei fraw, ni allai Enoc, wrth edrych yn ddialiu a syfrdan ar ei gruddiau hagr, beidio â meddwl am y darlun hwnnw o Apolion oedd ganddo mewn argraffiad o Daith y Pererin. Yr oedd Enoc yn sicr yn ei feddwl—beth bynnag oedd clefyd Marged—na allai curiadau ei chalon fod yn gyflymach na'r eiddo ef ei hun, a meddiannodd, yn y man, ddigon o nerth i wneud cymhariaeth, a chafodd ei fod yn gywir. Tra'r oedd ef yn teimlo curiad gwaed Marged, yn hollol sydyn, hi ddechreuodd gicio'n enbyd, a thaflu allan ei breichiau preiffion, nes argyhoeddi Enoc mai mewn ffit yr oedd