Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/177

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Marged druan. Cadarnhawyd yr opiniwn hwn yn ei feddwl gan y ffaith ei bod yn rhincian ei dannedd yn gynddeiriog. Gwelsai Enoc o'r blaen rai yn yr un cyflwr, ac yr oedd yn gyfarwydd â'r moddion a ddefnyddid. Rhag iddi gnoi ei thafod, llwyddodd Enoc, ar ôl mawr drafferth, i roddi llwy yn ei safn. Edifarhaodd wneuthur hyn, ond pe buasai ef yn ddigon tawel ei feddwl i fwynhau'r amgylchiad, fe chwanegodd gryn lawer at ddiddordeb yr olygfa, oblegid cydiodd Marged â'i dannedd yn y llwy fel y bydd hen ysmygwr danheddog yn cydio mewn cetyn pan fydd chwant mygu arno. Fel y sylwyd o'r blaen—o ran nerth corfforol (nid wyf yn awr yn sôn am ei feddwl) nid oedd Enoc ond eiddilyn; ond fel gwir ddyngarwr, yr oedd am wneud ei orau, yn ôl ei allu, i gael Marged yn iach o'r anhwyldeb, a dechreuodd yn egnïol—fel y gwelsai rai yn gwneud o'r blaen—guro cledrau ei dwylo. Gŵyr pawb pa mor gryfion ydyw pobl mewn gwasgfa; a phan ddechreuodd Enoc guro cledrau ei dwylo, dechreuodd Marged luchio allan ei braich dde gyda dwrn caeedig, a thrawodd Enoc ym môn ei drwyn nes oedd ef yn llechan ar lawr a'i waed yn llifo. Yn llawn tosturi at y dioddefydd, a heb falio dim yn yr ergyd a gawsai, neidiodd Enoc ar ei draed yn chwimwth, ond yr oedd y dyrnod wedi ei ddinerthu mor dost, a Marged hithau'n parhau i gicio a lluchio a baeddu, fel y gwelodd Enoc yn amlwg y byddai raid iddo ymofyn cymorth o rywle. Rhuthrodd allan, ac er ei lawenydd, pwy a ganfyddai, fel pe buasai newydd ddyfod i'r fan a'r lle, ond Jones y plismon.

"Dowch i mewn ar unwaith, Mr. Jones bach," ebe Enoc.

"Beth ydi'r helynt, Mr. Huws?" gofynnai Jones yn araf a digyffro, "beth ydi'r gweiddi sydd yn eich tŷ chi?"

"Ond Marged yma sy mewn ffit, dowch i mewn, dowch i mewn ar unwaith," ebe Enoc.