Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/178

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cerddodd Jones i mewn yn hamddenol a thrwm ei droed, ac wedi dyfod i'r goleuni, synnwyd ef yn fwy gan yr olwg oedd ar wyneb gwaedlyd Enoc, na chan yr olwg annaturiol oedd ar Marged â llwy yn ei safn. Yr oedd Marged wedi llonyddu, ac edrychodd Jones yn wyneb Enoc, ac ebe fe:

"Mae'n ymddangos, Mr. Huws, mai chi gafodd y gwaethaf yn yr ysgarmes," a chyn i Enoc gael ateb, neidiodd Marged ar ei thraed, a chan edrych yn ffyrnig ar Enoc, ebe hi:

"Y dyn drwg gynnoch chi" ond gwelodd fod rhywun arall yn yr ystafell, a chan droi at y plismon, ebe hi yn eofn :

"Be sy arnoch chi isio yma? be 'dech chi yn busnesu? ewch allan oddma mewn wincied, ne mi rof ole trwoch chi efo'r procer 'ma—ydech chi'n mynd?"

Gwenodd y plismon yn wybodus hynod, ac amneidiodd Enoc arno i fyned ymaith, a dilynodd ef at y drws. "Yr hen game, Mr. Huws, yr hen game," ebe'r plismon wrth adael y tŷ, ac yr oedd Enoc yn rhy ddychrynedig i'w ateb.

Druan gŵr yr oedd bron llewygu, a'i wyneb, oddieithr y rhan a orchuddid gan waed, yn farwol welw, pan syrthiodd i'r gadair o flaen Marged eilwaith. Wrth weled yr olwg resynus oedd arno, lliniarodd Marged am oddeutu pum eiliad, ac yna dechreuodd lefaru. "Be oedd arnoch chi isio efo'r syrffed ene yma? oeddech chi'n meddwl 'y nghymryd i i'r rowndws? Mi dyffeia chi! Ydi o ddim yn ddigon i chi 'nhwyllo i a gneud ffŵl ohono i, heb nôl plismon yma?"

"Marged," ebe Enoc yn grynedig, oblegid y munud hwnnw y canfu wir sefyllfa pethau, "Marged," ebe fe, peidiwch â gweiddi—yr wyf yn crefu arnoch." (Credai Enoc fod y plismon yn gwrando wrth y ffenestr.)

"Peidio â gweiddi? peidio â gweiddi?" ebe Marged ar dop ei llais, "mi waedda faint a fynna i, a chewch chi mo fy stopio i. Oes gynnoch chi ofn i bobol glywed?