Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

drafferth. Gwrthododd Mr. Thomas y moesgarwch gan roddi anogaeth iddi ddilyn esiampl y baban Enoc—gadael llonydd i'r botel. Diolchodd Mrs. Amos yn gynnes i'r gweinidog. "Os byth y bydd angen arna' i fynd i'r capel, i'ch capel chi, Mr. Thomas, y dof i," meddai, "ond am y gydwff arall ene, wn i ddim sut y mae neb yn mynd ar 'i gyfyl o."Aeth Mr. Thomas ymaith dan chwerthin, ac ni fu "angen" ar Mrs. Amos byth am fynd i gapel nac eglwys nes cariwyd hi i'r lle olaf gan bedwar o ddynion.

Er dirfawr siomedigaeth i Mrs. Amos, darfu i'r bedydd, neu rywbeth arall, ddwyn cyfnewidiad rhyfedd yn iechyd. Enoc. Pe buasai yn "fedydd esgob," ni allasai ei effeithiau fod yn fwy gwyrthiol. Dechreuodd Enoc edrych o gwmpas yn ddigon hen ffasiwn, a phan osododd Mrs. Amos ffroen y beipen India rubber yn ei safn, sugnodd mor eiddgar a hoyw ag oen bach, a phe buasai ganddo gynffon, buasai yn ei hysgwyd, ond gwnaeth iawn am y diffyg drwy ysgwyd ei draed, a chodi ei ysgwyddau i ddangos ei ddirfawr foddhad. Yn wyneb yr amlygiadau hyn o fywyd yn Enoc, yr oedd Mrs. Amos wedi monni drwyddi, a mynych y galwodd hi ef yn "hen chap drwg, twyllodrus." Ond gan mai byw a fynnai yr "hen chap drwg," nid oedd mo'r help.

Aeth amser heibio; ac oherwydd nad oedd Enoc yn gwneud dim—dim, o leiaf, gwerth sôn amdano—ond sugno'r botel lefrith, a Mrs. Amos, hithau, heb fod yn ddiystyr o gwbl o'r botel chwisgi, buan y diflannodd y "swm mawr o arian" a roddodd Mr. Davies iddi am gymryd Enoc "allan o'i olwg." Ffaith ydyw, cyn bod Enoc yn llawn ddeuddeng mis oed, fod ei famaeth mewn dygn dlodi. Mewn canlyniad, aeth at y relieving officer, a rhoddodd ar ddeall iddo mewn eithaf Cymraeg, nad oedd hi am gadw plant pobl eraill ddim yn hwy—na allai fforddio hynny, ac er bod yn ddrwg ganddi ymadael â'r plentyn, oblegid, meddai, yr oedd ef, erbyn hyn, yn ddigon cocsin, eto nid oedd dim arall i'w wneud. Yr oedd hi wedi disgwyl a disgwyl clywed rhywbeth oddi wrth