Mr. Davies, ac ni allai aros i ddisgwyl dim yn hwy. Os âi hi allan am hanner diwrnod i olchi, rhaid rhoi hyn a hyn o lodom i Enoc i wneud iddo gysgu, ac yr oedd hynny yn costio pres. Ac am dad y plentyn, wel, yr oedd hwnnw wedi rhedeg y wlad cyn geni Enoc, y syrffed. Wedi llawer o siarad a llawer o oedi, a mynd o flaen y Board of Guardians, a chant o bethau, llwyddodd Mrs. Amos o'r diwedd i gael Enoc oddi ar ei dwylo, a'i drosglwyddo yn ddiogel i ofal y workhouse.
Pallai amynedd y darllenydd, mae arnaf ofn, pe dilynid hanes Enoc tra bu yn y tloty, ac nid ydyw hynny yn angenrheidiol. Sicr yw iddo fod yno nes cyrraedd tair ar ddeg oed, pryd y bu raid iddo droi allan i ennill ei damaid, ac y dodwyd ef dan ofal grocer mewn tref gyfagos. Yr oedd yn ymddangos, pan ddaeth Enoc Huws o'r tloty, ei fod wedi cael addysg led dda mewn darllen, ysgrifennu a chowntio; a phe coelid ei fochau, ei fod wedi cael ymborth iachus hefyd. Yr oedd ei gorff yn fain a thenau, a'i wyneb yn fawr a glasgoch, y tebycaf dim a welwyd erioed i wnionyn â'i wraidd i fyny. Pa ddyfais sydd gan awdurdodau'r tloty i fagu bochau? Clywais mai'r cynllun a arferir ganddynt ydyw hwn: Wedi i'r bechgyn fwyta eu powlaid sgili—uwd mewn darfodedigaeth arweinir hwynt i'r buarth, a gosodir hwynt yn rhes â'u hwynebau at y mur. Yna, gorchmynnir iddynt sefyll ar eu pennau am yr hwyaf, a'r sawl a enillo fwyaf o farciau yn ystod y flwyddyn, a gaiff blataid extra o blwm pwdin ddydd Nadolig—yr unig ddiwrnod y gwneir pwdin yn y tloty—hynny ydyw i'r tlodion. Fe welir ar unwaith mai effaith naturiol yr ymarferiad hwn ydyw peri i faeth y sgili (y peth nesaf, medd meddygon, o ran ansawdd i ddwfr glân) redeg i'r bochau a'u chwyddo allan, gan adael i rannau eraill y corff gymryd eu siawns. Os bydd rhai o'r bechgyn dipyn yn afrosgo, neu fod cur yn eu pennau, ac oherwydd hynny eu bod yn methu mynd drwy'r ymarferiad hwn, rhoddir iddynt glewtan ar y foch yma heddiw, ac ar y llall yfory, a thrwy barhau'r