oruchwyliaeth, dygir oddi amgylch yr un canlyniad dymunol, sef bochau chwyddedig, a argyhoedda bob guardian rhesymol fod y bechgyn yn cael digon o fwyd maethlon. Gan nad yw'r cynllun hwn-oherwydd rhes- ymau penodol-yn ymarferadwy gyda'r genethod, mabwysiedir un arall, dipyn mwy costus, a chedwir hwnnw yn secret.
Pa fodd bynnag, dyna'r olwg oedd ar Enoc pan ddaeth allan o'r tloty. Yr oedd ei wyneb yn fawr a chrwn, fel llawn lloned, neu yn ôl cynllun cais cyntaf hogyn i dynnu llun dyn ar ei lechen. Yr oedd yr olwg arno yn peri i un feddwl am uwd-wyneb uwd-pen i ddal uwd—edrychiad syndrwm uwd, mewn gair, deallai plant y dref ar unwaith. mai "bachgen y workhouse" oedd Enoc. Llwyddasai'r tloty i berffeithrwydd i osod ei nod a'i argraff ar ben ac wyneb Enoc, ond methodd yn lân a newid natur ei feddwl. Yr oedd Enoc yn perthyn i ystoc rhy dda i'r tloty allu gwneud niwed i'w ymennydd.
Yn ffodus iddo ef, yr oedd ei feistr newydd yn ŵr synhwyrol a charedig, a thoc gwelodd yn Enoc ddefnydd bachgen medrus. Gydag ymborth sylweddol, caredig- rwydd, a hyfforddiant, dechreuodd Enoc yn fuan golli ei fochau chwyddedig a magu corff a choesau. Pan ym- deimlodd fod ganddo ryddid i adael i'w wallt dyfu yn ddigon o hyd i allu rhoi crib ynddo, dechreuodd ym- dwtio, a gwisgodd ei lygaid fwy o fywiogrwydd a sylw. Mor gyflym oedd y newid ynddo fel, ymhen chwe mis, pan ddaeth un o'r guardians i ymorol a oedd Enoc yn cael chwarae teg, mai prin yr oedd yn ei adnabod. Yr oedd y bochau chwyddedig wedi curio cymaint, a'u glesni wedi eu gadael mor llwyr, nes peri i'r guardian feddwl nad oedd Enoc yn cael digon o fwyd, a gofynnodd yn ffrom i'w feistr:
"Mr. Bithel, lle mae bochau'r bachgen wedi mynd?"
"I'w goesau, syr, a rhannau eraill ei gorff. Er pan welsoch chwi Enoc o'r blaen, y mae yma redistribution of