Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

seats wedi cymryd lle, a mi af i'r tŷ, syr, tra byddwch chwi yn holi Enoc a ydyw'n cael chwarae teg," ebe Mr. Bithel.

Wedi holi a stilio, cafodd y gwarcheidwad ei lwyr fodloni nad oedd Enoc yn cael cam, ond prin y gallai gredu nad oedd ganddo fymryn o hiraeth am y workhouse, y lle dedwyddaf ar y ddaear, yn nhyb y gwarcheidwad.