Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD III

Llwyddiant.

FEL yr oedd Mr. Bithel wedi rhagweled, daeth Enoc yn fachgen rhagorol, dysgodd ei fusnes yn gyflymach na'r cyffredin. Ond mynych y dywedodd Mr. Bithel wrtho ei fod yn ofni na wnâi byth feistr, am ei fod yn rhy swil, anwrol, a hygoelus. Yr oedd gormod o wir yn hyn, fel y ceir gweled eto. Nid oedd Enoc heb ymwybod o hyn, a pharai lawer o boen iddo. Anodd ganddo wrth-ddywedyd neb; lawer pryd byddai fel pe'n cydsynio â'r hyn oedd mewn gwirionedd yn gwbl groes i'w feddwl. Cofiai bob amser, ac weithiau atgofid ef gan eraill, mai" bachgen y workhouse oedd, a dichon fod â wnelai hynny gryn lawer â'i ledneisrwydd. Yr oedd ef, wrth natur, o dymherau tyner, ac wrth feddwl am ei ddechreuad, fel yr adroddwyd y manylion iddo fwy nag unwaith, yn y tloty, rhag iddo ymfalchio, mynych y gwlychodd ei obennydd â dagrau. Fel y cynyddai mewn gwybodaeth a diwylliant, mwyaf poenus iddo oedd cofio'r hyn a adroddwyd wrtho, yn enwedig cofio nad oedd ei hanes yn ddieithr i'w gyfeillion. Mewn cwmni ac yn y capel, lawer pryd, tybiai Enoc fod pobl yn meddwl am ei ddechreuad, er na byddai dim pellach o'u meddyliau. Hoffid ef gan bawb, a gwerthfawrogid ei wasanaeth gan ei feistr. Pa fodd bynnag, pan enillodd ei ryddid, wedi bod chwe blynedd gyda Mr. Bithel, penderfynodd Enoc fyned i dref ddieithr, lle gallai gadw ei hanes iddo ef ei hun. Ac felly bu; ac i dref enedigol Rhys Lewis a Wil Bryan yr arweiniwyd Enoc gan ragluniaeth.

Digwyddodd fod angen am gynorthwywr yn Siop y Groes. Ceisiodd Enoc am y lle a chafodd ef. Cedwid a pherchenogid Siop y Groes gan wraig weddw a fuasai yn hynod anffortunus yn ei chynorthwywyr. Cawsai mai eu cynorthwyo eu hunain y byddai'r nifer fwyaf ohonynt, nid ei chynorthwyo hi. Ond yn Enoc Huws daeth