PENNOD XXVII
Penbleth
NID cynt y cyrhaeddodd Enoc ei ystafell wely nag y daeth i deimlo mai Enoc Huws oedd eto. Prin y gallai gredu ei fod wedi bod mor eofn gyda Marged, Marged, a ofnai yng ngwaed ei galon! Dechreuodd ei gydwybod hefyd ei gyhuddo am ei gadael ar ei phen ei hun yn y fath gyflwr. Meddyliodd mai ei ddyletswydd oedd mynd yn ôl a cheisio gweinyddu rhyw ymgeledd iddi. Ond cofiodd am y mileindra a welodd yn ei gwedd y noswaith honno—yr oedd yn sicr yn ei feddwl fod mwrdrad yn llechu yng nghonglau ei llygaid! Mae bywyd yn werthfawr, ac y mae gan ddyn afael dynn ynddo. Dechreuodd Enoc ofni a chrynu, a phenderfynodd gloi drws ei ystafell. Nid oedd y drws wedi ei gloi ers blynyddoedd; ac oherwydd hynny, pan aeth Enoc at y gorchwyl, cafodd fod yr allwedd wedi rhydu yn y clo—ni allai ei symud. Beth oedd i'w wneud? Ni fu erioed mor nerfus, oddieithr y noswaith pan aeth gyntaf i Dŷ'n yr Ardd. Gosododd ei gist ddillad yn erbyn y drws, a hynny o gadeiriau oedd yn yr ystafell. Eto ni theimlai Enoc yn ddiogel rhag y gelyn. Yr oedd yn berffaith ymwybodol nad oedd hyn oll ond megis dim o flaen nerth Marged. Fel cadlywydd deallgar, agorodd Enoc y ffenestr rhag ofn y byddai raid iddo ddianc. Yn gymaint â bod un pen i'w bren gwely gyferbyn â drws yr ystafell, ac er mwyn cadarnhau'r amddiffynfa, gosododd Enoc ei gefn yn erbyn y gwely a'i draed yn erbyn y bocs dillad, ac arhosodd am yr ymosodiad. Yr oedd yn edifar ganddo yn ei galon siarad fel y gwnaethai â Marged, oblegid, meddyliai nad oedd neb yn y byd a wyddai pa ddial a gynhyrchai ei eiriau yn ei chalon. Arhosodd yn hir yn y sefyllfa amddiffynnol, ac er nad oedd ymosodiad gweithredol, gwasgai ei draed â'i holl nerth yn erbyn y bocs. Teimlai'n sicr, yn ôl yr amser, mai rhaid oedd fod Marged allan o'r ffit ers meityn, a