meddiannwyd ef gan y meddwl arswydus ei bod wedi rhoi'r procer yn y tân, a'i bod yn aros iddo fod yn eirias. Crebychai ei gnawd, a theimlai ei groen drosto fel croen gŵydd wrth feddwl am ias y procer yn ei ffrïo!
Yn y man clywai ryw gynhyrfiad yng ngwersyll y gelyn, ac yn ddiatreg clywai'r grisiau'n clecian dan bwysau Marged. Deallodd ei bod yn dyfod i fyny yn nhraed ei 'sanau, oblegid yr oedd ei throediad yn ysgafn ac araf, a chredai Enoc yn ei galon ei bod yn bwriadu gwneud rhuthr annisgwyliadwy arno. Gan nad oedd drws ei lofft yn cau yn glos, pan ddaeth Marged i'r troad yn y grisiau gwelai Enoc lewych ei channwyll trwy rigol y drws, a meddiannwyd ef gan y fath ddychryn fel y gadawodd ei amddiffynfa, ac y dihangodd i gyfeiriad y ffenestr. Gwnaeth ei geg ar ffurf O yn barod i weiddi O Mwrdwr y foment yr ymosodai Marged ar ei amddiffynfa. Curai ei galon fel calon aderyn newydd ei ddal, a rhedai dafnau chwŷs oer cymaint â phys gleision i lawr ei wyneb. Yr oedd Marged wedi cyrraedd drws ei ystafell!—ond yn mynd heibio yn araf a distaw, fel pe buasai yn ofni deffro plentyn! Pan glywodd Enoc—ac yr oedd yn glust i gyd—ddrws ystafell wely Marged yn cau gollyngodd ochenaid hir, ddiolchgar, o waelod ei galon, a thaflodd ef ei hun ar y gwely i geisio'i adfeddiannu ei hun ychydig, heb esgeuluso cadw gwyliadwriaeth ar yr un pryd. Wedi cyfnerthu fymryn, a chyfrif y dylasai Marged, o ran amser, fod bellach rhwng y cynfasau, cododd ac aeth at y drws, gan osod ei glust ar y rhigol. Dywedwyd eisoes fod Marged yn chwyrnreg ddigyffelyb, a gwyddai Enoc o'r gorau os cysgai hi y gallai glywed ei hebychiadau hyd yn oed o'r seler—dyna oedd y prif, os nad yr unig reswm gan Enoc dros wrthod cymryd "mis pregethwyr," ond cadwodd y rheswm iddo ef ei hun. Gwrandawai Enoc yn ddyfal am godiadau, ymchwyddiadau, a thagiadau Marged, a phan ddechreuodd y rhai hyn ddisgyn ar ei glyw teimlai