Ond a barhâi hi yn y cyflwr dedwydd hwn oedd yn amheus ganddo. Yr oedd Enoc yn berffaith ymwybodol o wirionedd yr hyn a ddywedasai Jones wrtho, sef y byddai raid iddo ddangos y dyn os oedd am gadw Marged i lawr. Oni wnâi ef hynny, teimlai Enoc yn berffaith sicr y byddai Marged mewn cyflawn feddiant o'i thymherau drwg erbyn trannoeth. Wrth fwyta'i frecwest synfyfyriai pa fodd y gallai ddechrau ar y gorchwyl hwn. Ychydig ffydd oedd ganddo yn ei allu. Yn wir, ni fedrai fod yn gas wrth neb, a gwell ganddo oddef cam na bod yn frwnt a meistrolgar. Erbyn hyn, gwelai y byddai raid iddo geisio dangos ei awdurdod. Wedi gorffen brecwest, aeth yn syth i'r pantri, lle na buasai o'r blaen ers llawer o amser, a theimlai lygaid Marged yn llosgi ei gefn wrth iddo gymryd y fath hyfdra. Torrodd ddwy dafell o biff cul yn ôl cyfarwyddyd Jones, ac wrth fyned i'r llofft, dywedodd, braidd yn nerfus:
"Marged, 'rydw i'n mynd i'n gwely, a 'does neb i 'nistyrbio i tan ganol dydd," a rhag i Marged ei atal, cerddodd yn gyflym i'r llofft cyn clywed beth a ddywedai hi.
Ni ddywedodd Marged air; yn unig edrychodd yn synedig ar y biff oedd yn ei law. Gofynnai iddi ei hun a oedd ei meistr wedi drysu? I beth yr oedd yn cymryd biff i'r llofft, yn enw pob rheswm? A oedd y plismon wedi dod â mastiff iddo, i'w gadw yn y llofft, i edrych ar ei hôl hi? Neu a oedd yn bwriadu yn y dyfodol—yn hytrach na bwyta yn y gegin, gymryd ei ymborth yn y llofft, a hwnnw heb ei goginio? Neu a oedd ar fedr ei rheibio hi â'r biff, fel y clywsai fod rhai yn trin dafad wyllt? Yr oedd Marged wedi ei drysu a'i hanesmwytho nid ychydig.
Aeth Enoc i'w wely, ac yn ôl y cyfarwyddyd, gosododd y biff ar ei lygaid, gyda saeth weddi am i'r feddyginiaeth ateb y diben dymunol. Nid rhyfedd ar ôl yr hyn yr aethai drwyddo'r noson cynt a'r bore hwnnw, ei fod yn teimlo wedi gorwedd yn ei wely, braidd yn gwla. Teimlai