ei frecwest, er nad oedd ond bychan, yn pwyso'n drwm ar ei stumog, ac fel pe buasai am newid ei le. Ni allai roddi cyfrif am ei salwch. Gwaethygai ei glefyd, a thrawyd Enoc gan y syniad arswydus—a oedd Marged, tybed, wedi ei wenwyno? Nid oedd dim haws, oblegid, yn wahanol i hen ferched yn gyffredin, ni allai Marged oddef cathod—yn wir, yr oedd hi wedi lladd tua hanner dwsin—ac fel dirprwy cath defnyddiai Marged "wenwyn llygod" yn helaeth. Beth, meddai Enoc, os oedd hi wedi rhoi peth o'r gwenwyn hwnnw yn ei frecwest? Teimlai yn sâl iawn. Os oedd Marged wedi ei wenwyno—nid oedd mo'r help—yr oedd yn rhaid iddo farw—canys ni allai alw ar neb i'w gynorthwyo—a chymryd popeth i ystyriaeth, ni buasai marw yn rhyw anffawd fawr iawn. Fel hyn yr ymsyniai Enoc pryd y syrthiodd i gwsg trwm—mor drwm fel na ddeffroes am bedair awr. nid oes neb â ŵyr pa bryd y deffroesai, oni bai iddo gael breuddwyd ofnadwy. Meddyliai, yn ymdaith ei enaid, ei fod wedi bod yn afiach a gorweiddiog am fisoedd lawer, a bod Marged wedi cadw ei afiechyd yn ddirgelwch i bawb, oblegid nid ymwelsai na meddyg na chyfaill ag ef yn ystod holl fisoedd ei glefyd. Yr oedd mewn poenau arteithiol yn barhaus, nos a dydd, ac os cwynai ychydig, trawai Marged ef yn ei dalcen â rhyw offeryn, nes dyblu ei boenau. Lawer pryd, pan na byddai Marged yn yr ystafell, carasai allu codi a churo'r ffenestr ar rywun a ddigwyddai fyned heibio a hysbysu ei gyfeillion, ond yr oedd yn rhy wan i godi. Trwy ryw ffordd, nas gwyddai ef, yr oedd Marged wedi gwerthu ei siop a'i holl eiddo, ac wedi sicrhau'r arian iddi hi ei hun. `Weithiau dygai Marged yr holl arian ar fwrdd bychan o flaen ei lygaid, a chyfrifai hwynt yn fanwl lawer gwaith drosodd, yna cadwai hwynt yn ofalus a herfeiddiol. Gwyddai mai disgwyl iddo farw yr oedd Marged, a'i bod yn bwriadu ei gladdu yn ddirgel yn yr ardd wedi nos. Ar adegau, trawai Marged ef yn ei ben â morthwyl mawr nes pantio ei dalcen, ac yna gafaelai'n ffyrnig yn ei wallt, codai ei
Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/214
Gwedd