Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/215

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ben oddi ar y gobennydd, a thrawai ef yn ei wegil â'r morthwyl, nes dôi ei dalcen i'w le yn ei ôl. Os gwaeddai ef "O!" rhoddai Marged iddo gnoc arall, flaen ac ôl. Synnai ef ei hun weithiau ei fod yn gallu byw cyhyd dan y fath driniaeth chwerw, a chanfyddai ar wyneb Marged ei bod hithau wedi glân flino disgwyl iddo farw. Ar brydiau, cedwid ef am wythnosau bwygilydd heb damaid o fwyd. Mor dost oedd ei newyn yr adegau hynny, fel y tybiai, pe gallasai symud ei ben y gallasai fwyta post y gwely, ond ni allai hyd yn oed droi ei lygad yn ddiboen. Pan fyddai fwyaf ei newyn, deuai Marged i'r ystafell â dysglaid o'r ymborth mwyaf persawrus—eisteddai o fewn troedfedd i'w drwyn, a bwytâi'r cyfan, a llyfai'r ddysgl heb gynnig gwlithyn iddo; ac eto, yr oedd yn byw. Ar amserau ceisiai farw, ond bob tro y ceisiai, âi angau ymhellach oddi wrtho a dyfnhâi ei boenau. Un diwrnod, daeth Marged i'r ystafell â chyllell fain finiog yn ei llaw, a gwelodd Enoc ei bod ar fedr ei lofruddio, ac nid drwg digymysg oedd hynny yn ei olwg, canys yr oedd wedi blino. ar fyw. Nid oedd Marged wedi siarad ag ef ers llawer o fisoedd yn unig tynnai wynebau ellyllaidd arno am oriau bwygilydd weithiau. Ond yn awr siaradodd, gan ei hysbysu nad oedd hi yn bwriadu ei ladd am fis neu ddau, ond mai ei gorchwyl y diwrnod hwnnw a fyddai tynnu ei lygaid allan. Cyn gynted ag y siaradodd Marged, teimlai Enoc yr un foment ei fod ef ei hun wedi colli'r gallu i barablu. Gwnaeth ymdrech galed, ond ni fedrai symud ei dafod, peth oedd yn ymddangos fel pe buasai'n cydsynio i Marged dynnu ei lygaid, peth a wnaeth hi yn ddeheuig â blaen y gyllell. Rhyfeddai Enoc nad oedd tynnu ei lygaid yn achosi cymaint o boen iddo â chael ei daro yn ei dalcen â'r morthwyl. Gwelai Marged yn gosod ei lygaid ar y bwrdd, ac yn eu gadael yno, ac yna yn mynd i lawr y grisiau. Ni phrofai Enoc ryw lawer o anghyfleustra oherwydd colli ei lygaid, ond teimlai dipyn yn anghyfforddus wrth eu gweled yn edrych arno o hyd, ac un