cyfyngu arno ei hun i wneud yr hyn y mae yn ei wneud. Ond 'does dim dowt, Sem, fod eich newydd wedi codi llawer ar ei ysbryd. Mae hi'n wahanol gyda Mr. Huws, mae ganddo fo bwrs lled hir. Gobeithio'r tad y cawn ni rywbeth acw yn fuan, bydae o ddim ond er mwyn Denman. Ond rhyngoch chwi a fi, 'dydw i ddim yn disgwyl dim acw 'rwan, ond rhaid ceisio cadw'r gobaith i fyny, er, mewn ffordd o siarad, fod yn edifar gen i ddechre yng Nghoed Madog, a faswn i 'rioed wedi dechre—mi faswn yn trio byw ar y tipyn oedd gen i—oni bai 'mod i'n meddwl beth ddaethai ohonoch chwi, y gweithwyr a'ch teuluoedd."
"'Wn i ddim be ddeuthe ohonom ni 'blaw am Goed Madog," ebe Sem.
"Digon gwir," ebe'r Capten, "ond beth ydyw eich barn chwi, Sem, a beth ydyw barn y dynion am y lle?", "Wel, syr," ebe Sem, "mae gan y dynion, a mae gen innau, ffydd y cawn ni blwm yno ryw ddiwrnod."
"Gweddïwch ynte," ebe'r Capten, "am i'ch ffydd droi yn olwg, a'ch gobaith yn fwynhad, oblegid y mae gan Ragluniaeth lawer i'w wneud â phethau fel hyn. A pheth arall, y mae gwaelod, chwi wyddoch, i byrsau'r ychydig ohonom sy'n gorfod dwyn y gost. Mi ddof i lawr acw fore fory, Sem, os byddaf byw ac iach. A 'rwan, rhaid i mi fynd at y cyfeillion yma. Peidiwch â chodi, Sem, mi ddwedaf wrth Kit am ddwad â pheint o gwrw i chwi a thipyn o fara a chaws."
"Thanciw, syr," ebe Sem.