pobl Bethel, a 'chydig o bregethwyr Methodus, a 'mhrofiad gwirioneddol i ydyw mai windbags ydyw naw o bob deg o'r dynion a welais i—creaduriaid yn. ——"
"Susi," ebe'r Capten, "mae'n ymddangos fod pawb wedi gorffen. Cenwch y gloch yna am Kit, i glirio'r pethau, ac 'rwyf yn meddwl mai gwell i chwi fynd i edrych sut y mae hi ar eich mam, druan. Mae hi, poor woman, wedi ei gadael yn unig heno."
"O!" ebe Susi, "mi wela, yr ydech chi am fy nhorri o'ch seiat, tada. Well i chi ofyn arwydd,—pawb sydd o'r un meddwl na ellir ystyried Susan Trefor yn aelod mwyach o'r seiat hon, coded ei law."
Ni chododd neb ei law ond y Capten, a chanodd Susi'r gloch am Kit, a rhedodd ymaith dan chwerthin.
"Mae gennych ferch fywiog, Capten Trefor," ebe Mr. Simon.
Oes," ebe'r Capten, "mae digon o fywyd ynddi, ond byddaf yn ofni yn aml iddi wneud argraff anffafriol ar feddyliau dieithriaid. Hwyrach fy mod yn euog o adael iddi gael gormod o'i ffordd ei hun. Ond y mae'n rhaid i mi ddweud hyn, ac mae'r cyfeillion yma'n gwybod mai gwir yr wyf yn ei ddweud—fod rhyw gyfnewidiad rhyfedd wedi dod dros feddwl fy merch yn ddiweddar. Amser yn ôl, syr, yr oedd yn peri llawer o boen a phryder meddwl i mi, oblegid yr oedd yn rhoi lle i mi gredu nad oedd yn meddwl am ddim ond am ymwisgo, darllen novels, a rhyw wag—freuddwydio ei hamser gwerthfawr heibio. Nid oedd yn diwyno ei dwylo o'r naill ben i'r wythnos i'r llall, ac er ei bod wedi cael dygiad i fyny crefyddol—cyn belled ag yr oedd addysg ac esiampl ei rhieni yn mynd—yr oedd gennyf le i ofni nad oedd yr adeg honno yn meddwl dim am fater ei henaid, ac yr oedd hyn, fell y gellwch feddwl, yn achosi poen i mi nid ychydig. Er yn hogen yr oedd ei dychymyg yn fywiog, a thrwy ryw anffawd, fe aeth ymlaen i'w phorthi fel yr oedd pethau cyffredin bywyd, megis gwaith tŷ, trafferthion bywyd, ac yn y blaen, mor ddieithr iddi a phe buasai'n byw mewn