Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/231

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

byd arall. Gan fy mod wedi dechre, waeth i mi orffen. Y pryd hwnnw, syr, nid wyf yn meddwl fod fy merch yn ymwybodol fod yma fyd o drueni o'i chwmpas. Ni wyddai hi ei hun beth oedd eisiau dim, ac ni allai ddychmygu, ar y pryd, fod neb arall mewn angenoctyd neu yn dioddef. Nid oedd ei chalon erioed wedi ei chyffwrdd. Heblaw hynny, nid oedd ganddi syniad am werth arian—yr oedd papur pumpunt yn ei golwg fel hen lythyr, heb fawr feddwl fod pob punt yn tybied hyn a hyn o lafur ymennydd i'w thad. Yr oedd hi rywfodd yn byw ynddi hi ei hun, ac er gwneud llawer cais nid oedd bosibl ei chael allan ohoni ei hunan i sylweddoli realities bywyd. Ai rhaid i mi ddweud bod hyn wedi peri i mi golli llawer noswaith o gysgu? Ond ers amser bellach, nid yw'n gofalu dim am wisgoedd—mae'n well ganddi, syr, fynd i'r capel mewn ffroc gotwn nag mewn gown sidan—ac y mae hi fel gwenynen gyda gwaith y tŷ o'r bore gwyn tan nos. Mewn gair, y mae hi wedi mynd i'r eithafion cyferbyniol. Mae'n well ganddi olchi'r llawr na chwarae'r piano, a hwyrach y bydd yn anodd gennych fy nghredu, ond ddoe ddiweddaf yn y byd pan oeddwn yn dyfod adref o'r Gwaith, beth welwn ond Susi yn golchi carreg y drws, a Kit y forwyn, yn edrych arni â dwylo sychion! Wrth gwrs, y mae peth fel hyn yn ridiculous, ond y mae'n mynnu cael gwneud y pethau y dylai'r forwyn eu gwneud yn wir, erbyn hyn, sinecure ydyw morwyn yn ein tŷ ni, syr. Raid i mi ddim dweud wrthoch chi, Mr. Simon, nad ydyw peth fel hyn yn gweddu i'w sefyllfa, ond yr wyf wedi mynd i'r drafferth o'i ddweud rhag ofn y digwydd i chi ddod yma ryw ddiwrnod a chael shock i'ch nerves wrth weled fy merch â ffedog fras o'i blaen yn glanhau esgidiau, a'r forwyn yn eistedd wrth y tân yn darllen nofel. Ac wrth sôn am ddarllen, y mae'r un cyfnewidiad wedi dod dros ei meddwl yn hyn hefyd, yr hyn sydd wedi fforddio cysur mawr i mi ac i'w mam. Welir byth mohoni yn awr yn gafael mewn llyfr gwagsaw. Ei hoff lyfr, wrth gwrs, ydyw'r Beibl, a chwi synnwch