Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/232

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

pan ddywedaf i mi ei dal y nos o'r blaen dros ei phen a'i chlustiau yng Nghyfatebiaeth Butler, ond dyna'r ffaith, syr, ac, os nad wyf yn camgymryd, y mae wedi benthyca amryw gyfrolau o'r Traethodydd gan fy nghyfaill yma, onid ydyw, Mr. Huws? (Rhoddodd Enoc nod cadarnhaol.) Ac os nad ydwyf yn eich blino, cyfnewidiad arall y dylwn gyfeirio ato ydyw ei ffyddlondeb ym moddion gras. Yr ydych wedi sylwi eich hun, Mr. Simon, nad oes neb yn fwy ffyddlon yn y capel, mi gredaf. gair, yr wyf yn credu bod fy merch wedi cael cyfnewidiad calon a chyflwr, a chwi faddeuwch i mi, Mr. Simon, am siarad cymaint yn ei chylch. Mae gennyf ddau reswm dros wneud hynny y cyntaf ydyw fy mod yn ystyried ei bod yn fantais i chwi, fel ein gweinidog, feddu'r adnabyddiaeth lwyraf sydd yn bosibl o wir stad meddwl a chalon pob aelod o'ch eglwys, fel y galloch iawn gyfrannu iddynt air y gwirionedd. A'r rheswm arall ydyw—fel cysur a chymhelliad i chwi—os byth y deuwch yn ben teulu—i ddwyn eich plant i fyny yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd yr hyn, yr wyf yn sicr, a wnewch. Ac er, hwyrach, na welwch ffrwyth eich llafur yn uniongyrchol, eto, mor sicr â'ch bod yn fore wedi hau eich had, fe ddwg ffrwyth ar ei ganfed, yn ei amser da Ef ei hun. Mae gennyf ofn fy mod wedi siarad gor——"

Ar hyn dychwelodd Miss Trefor, ac ebe hi:

"Mr. Huws, mae 'mam yn crefu arnoch beidio â mynd i ffwrdd cyn dwad i edrach amdani."

"Mi ddof y munud yma," ebe Enoc, ac ymaith ag ef.

"Mae'n rhyfedd," ebe'r Capten, "y ffansi y mae Mrs. Trefor wedi ei chymryd at Mr. Huws. Bydasai'n fab iddi nid wyf yn meddwl y gallasai ei hoffi yn fwy; ac eto, erbyn ystyried, nid ydyw mor rhyfedd, oblegid ni chyfarfûm â dyn erioed haws i'w hoffi, ac y mae Mrs. Trefor ac yntau o'r un teip o feddwl—maent yn naturiol grefyddol, a'u myfyrdodau'n rhedeg ar yr un llinellau. Mi fyddaf yn meddwl nad yw gamp yn y byd i rai pobl fyw'n grefyddol, ac 'rwyf yn meddwl bod fy