Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/252

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Mae arnaf ofn, syr," ebe'r Capten, eich bod gyda hyn, fel gyda phopeth arall, wedi taro'r hoel ar ei phen, ac yr wyf yn fwy argyhoeddedig o hyn yn gymaint â bod Susi acw wedi awgrymu fwy nag unwaith syniadau cyffelyb. Yn wir, yr ydech fel pe byddech wedi bod yn cynnal cyngor ar achos y gŵr gan mor debyg ydyw'ch syniadau."

"Ni chefais ddim ymddiddan â Miss Trefor, hyd yr wyf yn cofio, ynghylch Mr. Simon," ebe Enoc.

"Nid yw hynny," ebe'r Capten, " ond yn profi'ch bod yn dra thebyg o ran cyfansoddiad meddwl, a gallaf eich sicrhau, syr, nad un yw Susi i gadw ei llygad yn gaead. Ond goddefwch i mi ofyn hyn—a oes gennych le i gredu fod gan Mr. Simon eiddo? Mae ei ymddangosiad yn peri i mi feddwl bod ganddo rywbeth mwy wrth ei gefn na'r tipyn cyflog y mae yn ei gael gennym ni, ac yr wyf yn meddwl ei fod wedi awgrymu wrthyf fwy nag unwaith ei fod o deulu da, ac yr oedd Susi yn dweud wrthyf na chostiodd y fodrwy sydd ganddo ar ei fys lai na deg punt. Fy rheswm dros ofyn y cwestiwn i chwi ydyw hyn—yr oeddwn braidd yn meddwl ar olwg Mr. Simon heno ei fod yn cymryd cryn ddiddordeb yng ngwaith Coed Madog, ac na fuasai ganddo wrthwynebiad, pe buasem yn gofyn iddo gymryd shares yn y Gwaith. Beth ydyw'ch syniad chwi?"

'Dydw i'n gwybod dim am sefyllfa fydol Mr. Simon," ebe Enoc, "ond prin y buaswn yn meddwl bod ganddo eiddo. Mae gweinidogion dan ryw fath o angenrheidrwydd i wisgo'n dda, ac i ymddangos yn respectable. Mi welais cyn hyn ambell bregethwr ifanc yn cychwyn i'w daith ar ddydd Sadwrn mor drwsiadus ag un gŵr bonheddig yn y wlad, ac fel yr oedd y gwaethaf, heb fwy na cheiniog a dimai ar ei elw wedi talu am docyn ei drên, a phe digwyddasai i'r blaenor lle y pregethai anghofio rhoi'r degwm iddo, buasai raid iddo gerdded yr holl ffordd adre neu fenthyca arian. A hyd yn oed pe buasem yn siŵr fod gan Mr. Simon arian wrth ei gefn,