prin yr wyf yn meddwl y buasai yn ddoeth gofyn iddo gymryd shares yng Nghoed Madog. Mwy priodol fuasai ei annog i gloddio a myned yn ddwfn i bethau'r Beibl, nag i gloddio am blwm, fel chwi a minnau. Ac, yn wir, 'dydw i ddim yn credu y bydd arhosiad Mr. Simon yn hir yn Bethel. Mae o eisoes yn ymddangos i mi wedi mynd trwy ei stoc, ac yn ailadrodd pethau ers tro. Ond hwyrach mai fy rhagfarn i yn erbyn y dyn ydi hyn i gyd."
"Wyddoch chi beth, Mr. Huws?" ebe'r Capten, mi rown lawer am eich gallu i adnabod cymeriadau. Yr wyf yn meddwl y byddai yn amhosibl i'r un dyn yn y byd gael yr ochr ddall i chwi—yr ydech fel—fel yr anifail, onid e?—y mae'r Ysgrythur yn sôn amdano yn llawn llygaid—a 'does ryfedd yn y byd eich bod wedi llwyddo cymaint. Rhaid i mi ofyn eich maddeuant—achos 'doedd o ond tipyn o ysmaldod—mi dries dipyn o dric arnoch, ond fasai waeth i mi heb, ac nid yw'n bosibl, fel y dywedais, ddwad o hyd i'r ochr ddall i chwi. Y gwir ydyw hyn yr oeddwn yn sylwi eich bod yn canfod bod Mr. Simon yn cymryd diddordeb mawr yn newydd da Sem Llwyd, ac yr oeddwn yn ofni yn fy nghalon. i chwi, yn ddifeddwl, ofyn iddo gymryd shares, ond mi welaf, ac mi ddylaswn wybod, nad oedd raid i mi ofni. Nid pregethwyr na phersoniaid ydyw'r bobl i ni, Mr. Huws. Yn wir, pwy bynnag gymerwn yn bartneriaid, —os cymerwn rywrai o gwbl,—bydd raid iddynt—yrwan wedi i ni ddarganfod y plwm—ystyried ein bod yn gwneud ffafr fawr â hwynt—fe allwn fforddio bod yn independent, syr, a dweud wrthynt os nad ydynt yn fodlon i roddi hyn a hyn o arian i lawr, a ninnau wedi profi bod plwm yng Nghoed Madog,—ni allwn ddweud, meddaf, wel, peidiwch, ni fedrwn wneud heboch, a hynny'n burion. Wyddoch chi beth? mae 'n dda gennyf ein bod wedi taro ar y faen, er mwyn Denman, druan, oblegid, rhyngoch chwi a fi, mae arnaf ofn ei fod wedi gwario agos gymaint sy ganddo."