am ein hoes, Mary, a diolch i Dduw am hynny! A wyddoch chi be, Mary, 'roeddwn i just yn meddwl ych bod chi a finne'n dechre mynd i oed, ac mae'r peth gore i ni 'rwan, hynny ydi, ymhen ychydig wythnosau, fydd rhoi'r busnes yma i fyny, achos 'dydi o ddim ond poen a blinder. Ac i be y boddrwn ni efo busnes pan fydd gynnon ni ddigon o fodd i fyw yn respectable? Fydde fo ddim ond ynfydrwydd. Mi bryna ferlen a thrap just i redeg i'r Gwaith ac i gnocio tipyn o gwmpas, ac i'ch cymryd chithe allan dipyn ar ddiwrnod braf. Mae'n rhaid i ni feddwl am hyn—sef rhoi addysg dda i'r plant yma—y pethe bach! Yr ydw i'n meddwl y gneith Bobi bregethwr ne dwrne, mae o mor siarp, ac wedi iddo gael ysgol dda, mi gyrrwn o i'r Bala, i'r Coleg. Ac am Lusi, rhaid i ni ddysgu miwsig iddi, achos y mae o yn yr eneth yn amlwg i bawb. Mi gawn gysidro eto am y plant eraill," ebe Mr. Denman.
"O! Denman, mae o fel breuddwyd gen i'ch clywed chi'n siarad!" ebe Mrs. Denman.
"Ydi, mae o, ond yn ddigon gwir er hynny, Mary. Mae ffordd Rhagluniaeth yn rhyfedd, ydi yn rhyfedd! Ond deudwch i mi, Mary, oes gynnoch chi ddim rhywbeth yn y tŷ gawn ni'n damed blasus i swper? Achos, deud y gwir i chi, er bod gan y Capten swper ffyrs clas, fedrwn i yn 'y myw 'neud dim byd ohono rwsut ar ôl dallt eu bod nhw wedi dwad i blwm yng Nghoed Madog, a mi faswn yn licio bydase gynnon ni rw damed blasus i ni efo'n gilydd 'rwan."
"Mae 'ma dipyn o steaks, Denman, ond 'roeddwn i wedi llunio cadw hwnnw erbyn cinio fory," ebe Mrs. Denman.
"Hidiwch befo fory, Mary, 'dewch i ni 'i gael o.
"Raid i ni, bellach, ddim cynilo, mi gawn ddigon o bopeth, a mwy na digon. O 'dewch i ni gael tamed cyfforddus efo'n gilydd, a siarad tipyn dros bethe, sut y gwnawn i, ac felly yn y blaen, achos mi wn na chysga i ddim heno, mae fy meddwl i'n rhy gynhyrfus," ebe Mr. Denman.