Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/263

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Prin y gallai Mrs. Denman gredu mai Mr. Denman oedd yn ymddiddan â hi, gan mor fwyn a hawddgar oedd ei eiriau, ac mor wahanol oedd ei ysbryd. Am dymor hir ni chawsai hi ganddo ond atebion byrion a chrabed, a thymer sur a phigog. Teimlai fel pe buasai wedi ei thaflu'n ôl i'r chwe mis cyntaf ar ôl priodi, ac yr oedd hi wedi ei hyfryd syfrdanu. Ni fuasai ganddi un amser lawer o ffydd y deuai dim daioni o waith Mr. Denman yn "mentro cymaint, ond yr oedd rhywbeth mor newydd yn ei ysbryd, a'i eiriau mor amddifad o os ac oni bai y noswaith hon, a hynny mor wir amheuthun iddi, fel yr oedd bron â chredu bod tymor o lawnder a dedwyddwch wedi gwawrio arnynt. Ac eto yr oedd yn methu cwbl gredu, ac yn methu, er ceisio, ymollwng i lawenhau yr un fath â Mr. Denman. Teimlai fil o obeithion yn ymddeffro yn ei mynwes, ac ar yr un pryd amheuaeth, na allai roddi cyfrif amdano, yn ei rhwystro i roddi rhaff iddynt i chwarae. A thra'r oedd Mrs. Denman, druan, yn hwylio " tamed o swper blasus," yn ôl dymuniad ei gŵr, a'i gestyll dirifedi, buasai'n anodd dyfalu ei gwir deimladau. Oblegid pan oleuid ei hwyneb gan wên siriol, dilynid hynny yn union gan ochenaid drom. Yr oedd hi yn obeithiol ac yn ofnus—yn llawen ac yn brudd bob yn ail, a mwy nag unwaith y gofynnodd hi i Mr. Denman: "Ond, Denman, ydech chi'n credu fod o reit wir?" a phan brotestiodd Denman ei fod o cyn wired â'r pader, wel, ni allai mwyach ond ei gredu, a theimlai Mrs. Denman, o'r diwedd, ei bod hithau wedi ei hail—falu. Yn wir, mor llwyr y meddiannwyd hi gan yr un ysbryd â'i gŵr fel, oherwydd rhyw air digrif o eiddo'r diwethaf, y chwarddodd hi dros y tŷ. Ni chwarddasai o'r blaen ers blynyddoedd, ac yr oedd y chwerthiniad hwn mor uchel ac aflafar nes deffro Sami, eu bachgen ieuengaf. Digwyddodd hyn pan oedd Mrs. Denman newydd roi'r wynwyn yn y badell ffrio gyda'r steaks. Wedi deffro, gwrandawodd y crwt yn astud, a chlywodd lais uchel a llawen ei dad yn siarad