yn y gegin. Yn nesaf daeth aroglau peraidd y wynwyn a'r steaks i'w ffroenau. Llithrodd yn ddistaw o'r gwely ac i lawr y grisiau. Pan oedd Denman yng nghanol ei afiaith, a sŵn y badell ffrio ar ei uchaf, ac er dirfawr fraw i'w rieni, safodd Sami yn ei grys nos ar ganol llawr y gegin, ac ebe fo:
"Ga i gig, dada?"
Pe digwyddasai i Sami godi yn y cyffelyb fodd y noson cynt, cawsai "gweir" y cofiasai amdano. Ond yr oedd yr amgylchiadau'n wahanol—yr oedd ei dad wedi dyfod i blwm, ac ebe Mr. Denman yn groesawus:
"Cei, 'y ngwas gwirion i, tyrd yma ar lin dada, 'y mhwt aur melyn annwyl i. Gei di gig? Cei gymin fyw fyth ag a lici di. Ac mi gei bopeth arall y meder dy galon annwyl ddychmygu amdano, oni cheiff o, Mary?"
Ac felly nes iddi fynd yn fore y treuliodd Mr. a Mrs. Denman amser dedwydd yn cynllunio mil o bethau a wnaent wedi cael y plwm mawr. Ac nid cyn i'r ceiliog cochin china ganu ar ei glwyd yn y buarth cefn y dywedodd Mr. Denman:
"Wel, Mary, mae'n rhaid i ni fynd i'r gwely—just o ran ffasiwn, ond am gysgu, mae hynny allan o'r cwestiwn."
Mae'n rhaid i minnau yn awr ddychwelyd at wrthrych fy hanes, a adewais yn synfyfyrio o flaen ei fymryn tân.