Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/266

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ymdrafodaethau â Chapten Trefor wedi ei ddwyn i gysylltiad nes â'i eilun, ac nid oedd agosrwydd, fel y digwydd yn fynych, wedi lleihau dim ar y gyfaredd, eithr yn hytrach wedi ei dwysáu. Yr oedd ennill serch a chalon Miss Trefor yn ei olwg erbyn hyn o fewn terfynau posibilrwydd, os nad tebygolrwydd. Gwelai nad oedd ef yn amharchus yn ei golwg—cytunai'r ddau yn gyffredin yn eu golygiadau, ac, ar adegau, tybiai Enoc ei bod hi'n edmygu rhyw bethau ynddo. Yr oedd ef o'r dechrau wedi amcanu ennill syniadau da ei mam, ac wedi llwyddo y tu hwnt i'w ddisgwyliad, canys gwyddai fod iddo le cynnes yng nghalon Mrs. Trefor. Os oedd ymddygiad cwrtais y Capten Trefor â choel arno, nid dirmygus oedd yn ei olwg yntau. Teimlai Enoc yn sicr erbyn hyn ei fod wedi ennill yr amgaerau, ac yr oedd wedi llwyr arfaethu'r noson honno wneud cais egnïol i feddiannu'r castell. Ond nid cynt, fel y cofia'r darllenydd, nag y dechreuodd ef ei ymosodiad, nag y cilgwthiwyd ef yn ddirmygus, a hyn i gyd oherwydd un anap. A siarad yn eglur—heb ddameg—tybiai Enoc na chawsai erioed well cyfleustra nag a gawsai'r noson honno i wneud yn hysbys i Miss Trefor ei wir deimladau tuag ati. Yr oedd ei stori am gyfyngder amgylchiadau ei thad yn gyfle rhagorol yn ei olwg iddo ddangos mawrfrydedd ei natur a diffuantrwydd ei edmygedd ohoni—ohoni hi ei hun—yn annibynnol ar eiddo a sefyllfa. Ond yr oedd ei eiriau wedi ei dolurio a'i chythruddo yn dost, a chyn iddo gael amser i egluro iddi eu hystyr, yr oedd y Capten—pla arno! wedi dyfod ar ei draws.

"Y newydd gore," ebe Enoc wrtho ei hun, "a ges i ers gwn i bryd, oedd 'i chlywed hi'n deud eu bod nhw'n dlawd. Yrwan, meddwn, mae hi'n fwy tebyg o wrando ar fy nghynigiad. Yrwan, ni bydd amddiffynnydd a sicrwydd rhag angen yn ddibris yn 'i golwg, ac, o dan yr amgylchiade, bydd fy nghariad ati yn rhwym o ymddangos yn fwy disinterested. A dyna oeddwn yn mynd i'w ddeud wrthi 'daswn i wedi cael amser. Ond dyna'r