Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/267

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hen Gapten i lawr y grisiau! Dau funud fuase'n gneud y tro. Fu neb erioed mor anlwcus â fi, mi gymra fy llw. A mi ddaru gamddallt 'y ngeirie i—mi'i brifes hi, druan, ac erbyn hyn, mi fase'n dda gan 'y nghalon i 'daswn heb ddeud yr un gair. Bychan y gŵyr hi y base'n well gen i dorri 'mys i ffwrdd nag achosi'r boen leia iddi. Mae hi'n teimlo'n ddig ata i heno, mi wn. A be fydde ore i mi 'i neud? Mae gen i flys ysgrifennu llythyr ati i egluro a deud y cwbl. Ond bydde hynny yn wrthun, a finne yn 'i gweld hi mor amal. Mi af yno 'fory, achos rhaid i bethe ddwad i bwynt yrwan—mae'n rhaid i mi egluro pam 'roeddwn i'n deud fod yn dda gen i glywed eu bod nhw'n dlawd. Ond y gwaetha ydi, 'dydyn nhw ddim yn dlawd. 'Roedd yn hawdd dallt hynny ar eirie'r Capten heno. Wedi eu twyllo nhw y mae o—wedi cadw'i amgylchiade oddi wrthynt y mae'r hen lwynog. Mi wyddwn fod y peth yn amhosibl. Ac eto, mi fase'n well gen i bydase'n nhw'n wir dlawd, oblegid 'dase hi felly arnyn nhw, mae gen i le i obeithio y base hi, hwyrach, yn fwy parod i dderbyn fy nghynigiad, a mae'r nefoedd yn gwybod y base'n dda gen i roi'r cwbl sy gen i at 'i gwasanaeth hi, a chadw'r hen bobol hefyd, os base raid. Ond tybed nad 'y nhrio i 'roedd hi? 'Does dim posib na ŵyr hi 'mod i'n meddwl amdani, a hwyrach mai 'nhestio i 'roedd hi. 'Does neb ŵyr. Ond mae'n rhaid iddi ddwad i rywbeth yn fuan, achos fedra i ddim byw fel —."

Curodd rhywun ar y ffenestr yn ysgafn, ac edrychodd Enoc mewn braw i'r cyfeiriad hwnnw, a chanfu yr hyn nad oedd wedi sylwi arno o'r blaen, sef nad oedd Marged wedi tynnu'r gorchudd i lawr. Tu ôl i'r gwydr gwelai Enoc helm loyw ac wyneb siriol o dani—sef yr eiddo Jones, y plismon, yn gwenu arno. Agorodd Enoc y drws, ac ebe Jones:

"Brown study! brown study! Mr. Huws, 'doeddwn i ddim ond just galw'ch sylw i fod y blind heb ei dynnu i lawr."