Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/268

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Diolch i chwi," ebe Enoc, "'doeddwn i ddim wedi sylwi. Sut fu, tybed, i Marged anghofio! Dowch i mewn, Mr. Jones."

"Dim ond am funud, syr, achos rhaid i mi fynd ynghylch fy musnes," ebe Jones. "Sut y dôth hi 'mlaen yn Nhŷ'n yr Ardd? ddaru chi fwynhau'ch hun yno? Wrth gofio, sut y mae'r llygaid? O! mi welaf, maent yn iawn. Mi wyddwn y base'r biff yn 'u mendio nhw."

"'Rydech chi'n ddoctor campus, Mr. Jones," ebe Enoc, "ddaru neb sylwi fod dim o'i le arnyn nhw, i mi wybod. Wel, fe gawsom nosweth bur hapus, a newydd da hefyd. Mae'n dda gen i ddeud, Mr. Jones, a mi fydd yn dda gynnoch chithe glywed, ein bod ni wedi dwad i blwm yng Nghoed Madog.'

"Ffact, Mr. Huws?" gofynnai Jones.

"Ffact i chi. Mae Sem Llwyd wedi taro ar y faen heno," ebe Enoc.

"Sem Llwyd, ai e?" ebe Jones. "Hidie Sem yr un blewyn a chymryd tipyn o blwm yn 'i boced i lawr y siafft—mae Sem yn hen stager, Mr. Huws. Glywsoch chi am Elis, y Batis, ers talwm? Naddo? Wel, i chi, 'roedd Elis ac un neu ddau arall yn chwilio am blwm yn rhwle tua Phen y Boncyn ene, ac yn gweithio bob yn ail 'Roedden nhw wedi bod wrthi am fisoedd, ac 'roedd Elis bron rhoi i fyny'r ysbryd, a helbul garw oedd hi arnyn nhw i gael Elis i weithio 'i stem. Un diwrnod, be ddaru un o'i bartnars—'roedd o'n gwbod mai tro Elis oedd y stem nesa—ond cymryd lwmp o blwm gymin â'i ddwrn, a'i guddio yn y fan yr oedd Elis i fynd ati. Wrth fynd adre, wedi gorffen 'i stem, fe alwodd yn nhŷ Elis, a 'bre fo: Ydech chi'n hwylio ati, Elis? Wyddoch chi be, mae acw well golwg nag a weles i 'rioed, Elis.' 'I mae?' ebe Elis, sut 'rydech chi'n deud hynny?' 'Wel,' ebe'r partnar, 'fedra i ddim deud wrthoch chi'n iawn, ond ewch yno a barnwch drostoch ych hun.' 'Wel,' ddyliwn y bydd raid i mi fynd unweth eto er 'y mod