Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/278

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD XXXIX

O'r Diwedd

YR oedd yr argoelion pendant fod Marged i gael gŵr, a hynny ar fyrder, yn fforddio llawer o gysur meddwl i Enoc, oblegid yr oedd y rhan fwyaf o'i ofnau a'i bryderon ynghylch y dyfodol yn gysylltiedig â hi, ac ni allai ef lai na synnu a rhyfeddu mor rhwydd a didrafferth yr oedd Tom Solet wedi cyrraedd ei nod, tra'r oedd ef ei hun yn yr helbul ers blynyddoedd, a chyn belled ag y gallai weled, nid oedd yn nes i'w nod yn awr nag yn y dechrau. Arweiniodd hyn fyfyrdodau Enoc i'w sianel naturiol, sef i gyniwair ynghylch Miss Trefor, lle'r aent bob amser ac o bob man. Nichysgodd bron ddim y noswaith honno.

Yr oedd Enoc, fel y gwelsom, wedi bwriadu amlygu i Miss Trefor fod ei serch tuag ati, ond gwnaethai ragymadrodd anhapus, a'i briwiodd hi'n dost. Golygai Enoc i'r bregeth egluro'r rhagymadrodd—dipyn yn groes i'r drefn gyffredin—a pheth mawr ydyw mynd yn groes i arferiad. Ni chafodd ef, fel y gwelwyd, ddweud y bregeth, ac felly'r oedd y rhagymadrodd yn dywyll. Ar yr un pryd, wedi clywed yr hyn a ddywedodd Jones y Plismon, ystyriai Enoc fod y rhagymadrodd yn burion, ac mai'r anap fu na chafodd gyfleustra i bregethu. Mewn geiriau eraill, wedi'r ymgom â Jones, methai Enoc weled ei fod wedi methu wrth ddatgan ei lawenydd pan hysbysodd Miss Trefor ef fod ei thad yn dlawd, gan y rhoddai hynny brawf iddi o uniondeb a dianwadalwch ei hoffter ohoni. Wedi'r anap a ddigwyddodd, ni allai ef orffwyso heb ei egluro ei hun i Miss Trefor, ac mor fore ag oedd weddus hwyliodd i Dŷ'n yr Ardd gyda'r esgus o ymholi am iechyd Mrs. Trefor.

Wrth gwestiyno Kit, y forwyn, cafodd allan fod Mrs. Trefor gryn lawer yn waeth,—eu bod wedi gorfod galw'r meddyg ati, a bod hwnnw wedi gorchymyn perffaith lonyddwch, a bod y Capten wedi mynd i'r Gwaith i chwilio ynghylch darganfyddiad Sem Llwyd. Nid oedd