Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/279

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Enoc yn fodlon i droi'n ôl ar hyn, a gofynnodd i Kit hysbysu ei fod yn holi amdanynt. Dychwelodd y forwyn yn y funud gyda gair fod Mrs. Trefor yn rhy wael i neb ei gweled. Aeth Enoc yn ôl yn ben isel, a bwriadai roi ail gynnig yn yr hwyr. Er bod yn ddrwg iawn ganddo am waeledd Mrs. Trefor, eto yr hyn a'i gofidiai fwyaf oedd na chawsai gyfleustra i'w egluro'i hun i Miss Trefor. Pan oedd ar fin cychwyn i Dŷ'n yr Ardd yn yr hwyr, gan obeithio cael egwyl, pe na bai ond dau funud i siarad â Miss Trefor, daeth y Capten i mewn.

"Cheir mo'r melys heb y chwerw, Mr. Huws," meddai, ac ni theimlais i erioed hyd heddiw mor wir ydyw'r ddihareb. Yr oeddwn wedi bwriadu galw yma yn gynt i roi report i chwi am f'ymweliad â'r Gwaith, a buaswn wedi gwneud hynny oni bai fod profedigaeth deuluaidd, sef afiechyd Mrs. Trefor, sydd, fel y gwyddoch, 'rwy'n deall, gryn lawer yn waeth heddiw nag ydoedd neithiwr, wedi fy rhwystro. Ac y mae hi'n wael iawn mewn gwirionedd, er bod y doctor yn sicrhau nad oes berygl, ar hyn o bryd, beth bynnag. Mi wn, Mr. Huws, eich bod yn deall fy nheimladau ac yn cydymdeimlo â mi yn fy helynt, oblegid, er fy mod yn disgwyl trwy eich gweddïau chwi ac eraill yr adferir hi,—eto, meddaf, pe gwelai Rhagluniaeth ddoeth yn dda ei chymryd hi ymaith, byddai fy mhererindod i ar ben, gyda golwg ar y byd hwn a'i bethau, oblegid, mewn ffordd o siarad, ni fyddai gennyf ddim yn y byd yn werth byw er ei fwyn. Ond at hyn yr oeddwn yn cyfeirio, a rhaid i mi fod yn fyr,—ni allaf yn yr amgylchiadau presennol aros yn hir,—at hyn yr oeddwn yn cyfeirio,—y buaswn wedi galw yn gynnar yn y dydd oni bai'r hyn a grybwyllais, i roi i chwi report am wir werth yr hyn a hysbyswyd i ni neithiwr gan Sem Llwyd. Y mae'n dyfod i hyn, Mr. Huws, ag i mi ei roi i chwi mewn byr eiriau, y mae, fel y dywedais neithiwr, fel y ddeilen ar y dŵr yn dangos fod y cyfandir yn ymyl. Ynddo'i hun nid yw fawr,—yn wir, nid yw ond bychan, ond fel y mae'n arwydd sicr o bethau mwy. Dan amgylchiadau