Nid yr un amcan sydd gan bawb ohonom, Mari, wrth ddwad i'r seiat," ebe Abel.
"Wel, ond oeddwn i'n dallt yn burion ar ych siarad chi, Abel, y'ch bod chi'n 'nelu at rwbeth felly, a fyddwch chi byth yn siarad dan y'ch dwylo. 'Doedd ene lychyn o dinc yr enedigaeth newydd yn'o fo, a oedd 'rwan?" ebe Mari.
Rhyfedd mor graff oedd yr hen bobl i wahaniaethu rhwng y lleidr a'r ysbeiliwr a'r sawl a ddeuai drwy'r drws i gorlan y defaid. A oedd concert pitch crefydd yr hen bobl yn uwch na'r eiddom ni, ac felly fod yn haws pigo'r ysgrechiwr allan yn y côr?
Pa fodd bynnag, nid oedd Richard Trefor yn llawn mis oed fel crefyddwr cyn i'r gair fyned allan ei fod ef a Miss Prydderch—merch ieuanc grefyddol a diniwed, yn cael y gair fod ganddi lawer o arian—yn mynd i'w priodi. Gwiriwyd y gair yn fuan—hynny yw, gyda golwg ar y priodi, ond am yr arian, ni wiriwyd mo hwnnw byth, oblegid yr oedd Miss Prydderch cyn dloted â rhywun arall, ond ei bod yn digwydd gwisgo'n dda. Nid oedd Trefor uwchlaw meddwl am arian, ond os priododd er mwyn arian, cafodd gam gwag. Yn wir, clywais ef ei hun, ymhen blynyddoedd, pan oedd wedi cyrraedd sefyllfa uchel yn y byd, yn dweud nad oedd ef yn ddyledus i neb am ei sefyllfa, ond i'w dalent a'i ymdrechion personol, ac mai'r cyfan a gafodd ef fel cynysgaeth gyda'i wraig oedd—wyneb prydferth, calon lawn o edmygedd ohono ef ei hun, a llond cist o ddillad costus. Ac nid oedd le i amau ei eirwiredd, oblegid clywais fwy nag un o'i hen weithwyr yn dweud mai golwg digon tlodaidd oedd arno ef a'i wraig am blwc ar ôl priodi. Ond yr oedd llwyddiant a phoblogrwydd mewn ystôr i Richard Trefor. Yn ôl natur pethau, nid oedd bosibl cadw goleuni mor ddisglair yn hir o dan lestr. Fel teigr yn cymryd llam ar ei ysglyfaeth, felly, un diwrnod, rhoes Trefor naid ar wddf ffawd— cydiodd ynddi, a daliodd ei afael am flynyddoedd lawer.