Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Clywodd Cymru benbaladr am waith mwyn Pwll y Gwynt. Ond hwyrach na ŵyr pawb mai Richard Trefor a'i cychwynnodd, mai ef oedd darganfyddwr y "plwm mawr." O'r dydd hwnnw yr oedd dyrchafiad Trefor yn eglur i bawb. Nid Richard Trefor oedd ef mwyach, ond Capten Trefor, os gwelwch yn dda. Dechreuwyd edrych ar y Capten Trefor fel rhyw Joseph oedd wedi ei anfon gan ragluniaeth i gadw yn fyw bobl lawer. Bu cyfnewidiad sydyn yn syniadau pobl amdano. Buan y gwelodd y rhai a arferai edrych yn gilwgus arno mai tipyn o guldra oedd hynny o'u tu hwy, ac ni chollasant amser i ad-drefnu eu meddyliau amdano. Y pethau a elwid o'r blaen yn bechodau yn Richard, nid oeddynt ond gwendidau yn Capten Trefor. Yr oedd rhyw fai ar bawb, ac ni ellid disgwyl bod hyd yn oed y Capten Trefor yn berffaith. Nid oedd gwendidau'r Capten ond gwendidau naturiol, gwendidau hawdd iawn, erbyn hyn, i roddi cyfrif amdanynt, a'u hesgusodi, mewn gŵr yn ei sefyllfa ef. Yr oedd y Capten yn well dyn o lawer nag yr oeddid wedi arfer synied amdano, ac yr oedd ef, yn sicr, yn fendith i'r gymdogaeth. Mewn gair, yr oedd y Capten yn enghraifft deg mor dueddol ydyw'r natur ddynol i ffurfio syniad anghywir am ddyn pan fo'n dlawd, ac mor anobeithiol ydyw i neb gael ei iawn brisio nes cyrraedd rhyw raddau o lwyddiant bydol. Pe proffwydasai rhywun am y Capten, fel y gwnaethai Mr. Bithel am Enoc Huws, sef na wnâi ef byth feistr, gau broffwyd fuasai hwnnw yn sicr. Ar ysgwyddau'r Capten gorweddai swydd ac awdurdod yn rasol a gweddeiddlwys ddigon. Amlwg ei fod wedi ei eni i fod yn feistr. Nid am ei fod yn dangos unrhyw dra-awdurdod arglwyddiaethus a gorthrymus. Na, yr oedd yn rhy dirion a chyweithas i hynny. Meddai ffordd ragorach, a dull o ddweud trwy ei ymddygiad wrth bawb oedd dan ei awdurdod: "Gwelwch mor fwyn ydwyf, ac mor frwnt y gallwn fod pe bawn yn dewis. Gwyliwch gamarfer fy mwyneidd-dra. 'Dydw i ddim yn gofyn i chwi dynnu