Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/284

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

'nabod yn iawn, a gweled eich gonestrwydd eich anrhydedd eich caredigrwydd di-ben-draw-yr wyf wedi dysgu'ch parchu, a'ch parchu yn fawr. Mi wn ers talwm fod pob gair a ddwedwch yn wir—neu fe ddylwn ddweud eich bod bob amser yn ceisio dweud y gwir. Yr ydech bob amser yn cario'ch calon ar eich llawes—mae'n amhosibl peidio â gweled hynny. 'Rwyf dan fil a mwy o ddyled i chi. 'Rydech chi wedi llenwi llawer ar 'y mhen gwag i—ydech yn wir. 'Rydech chi wedi gwneud i mi gredu bod y fath beth yn bod â dyn gonest a da. 'Dydw i'n gweled dim ond un gwendid ynoch chi—a hwnnw ydi—ych bod chi wedi bod mor ffôl â rhoi'ch serch ar hoeden ynfyd fel fi. A gadewch i mi geisio bod yr un fath â chi mewn un peth, Mr. Huws, sef bod yn onest a di-ragrith. Mi wyddwn ers llawer o amser eich bod yn meddwl rhywbeth amdanaf—fe fase raid i mi fod cyn ddalled â'r post i beidio â gweled hynny. Ac mi rois i chi gyfleustra ddegau o weithiau i ddweud eich meddwl. Ac er mwyn beth? Er mwyn i mi gael dweud hyn wrthoch chi, Mr. Huws, nad ydi o un diben i chi feddwl dim amdana i yn y ffordd yna—o un diben yn y byd."

"Miss Trefor," ebe Enoc, a'i galon yn i wddf, "ydech chi ddim o ddifrif wrth ddweud fel yna?"

"Mor ddifrif," ebe hi, "a bydawn yn y farn, a mae'n ddrwg iawn gen i orfod dweud fel yna, Mr. Huws, achos mi wn fydde fo ddim ond rhagrith ynof ddweud fel arall—fod hyn yn boen mawr i chi. Ond y mae gwrando ar eich cais, Mr. Huws, yn amhosibl yn amhosibl."

Pam? rhowch i mi reswm pam?" ebe Enoc yn drist.

"Fedra i ddim deud wrthoch chi pam, Mr. Huws," ebe Susi. "A chofiwch, 'dydi'r boen i gyd ddim o'ch ochr chi. Yr oedd gwybod—ac yr oedd yn amhosibl i mi beidio â gwybod eich bod wedi rhoi eich bryd arnaf yn fy mhoeni'n dost. Nid, cofiwch, am nad wyf yn ei ystyried yn compliment mawr. Mae i ferch gael ei hoffi—gael ei