Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/285

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

charu gan unrhyw ddyn—bydded ef cyn saled ag y bo—yn compliment iddi, a dylai ei werthfawrogi. Ond pan fydd un fel fi—ie, fel fi—un ydech yn ei 'nabod yn dda—yn cael ei charu gan un fel chi, Mr. Huws,—dyn, fel y dwedais o'r blaen, y mae gennyf y parch mwyaf iddo—wel, fe ddylai honno deimlo'n falch—ac yr wyf yn teimlo'n falch, a chofiwch na chaiff yr un glust byth—yn dra-gywydd glywed bod Susan Trefor wedi gwrthod Enoc Huws."

"Na chaiff, mi obeithiaf, achos fe fydd i Susan Trefor, ryw ddiwrnod, dderbyn cynnig Enoc Huws, ac wedyn ni chredai pobl pe dwedai hi hynny," ebe Enoc.

"Byth, Mr. Huws. A gadewch i mi grefu arnoch i roi'r meddwl heibio yn hollol ac am byth, a pheidio â sôn amdano eto. Dowch yma bob dydd—'does neb ag y mae mor dda gen i ei weld â chi. Mae 'mam yn meddwl y byd ohonoch, ac y mae 'nhad, mae arnaf ofn, yn byw arnoch, ond, Mr. Huws bach, peidiwch byth â sôn am beth fel hyn eto," ebe Susan.

"Pam? deudwch i mi'r rheswm pam?" ebe Enoc.

"Wel," ebe Susan, wedi petruso tipyn, "yr yden ni'n rhy debyg i'n gilydd. Yr yden ni wedi siarad cymaint â'n gilydd wedi cyfnewid meddyliau, a hynny am gymaint o amser, fel y byddaf yn dychrynu weithiau wrth geisio gwneud allan pa un ai Susan Trefor ai Enoc Huws ydw i. 'Ryden ni'n rhy debyg i'n gilydd i fod yn ŵr a gwraig. Nid dyna fy syniad i am ŵr a gwraig—fy syniad i ydyw y dylent fod yn hollol wahanol i'w gilydd, achos mi wn, bydae gen i ŵr tebyg i mi fy hun, yr awn yn y man i'w gasáu fel y byddaf yn fy nghasáu fy hun yn aml."

Gwenodd Enoc yn foddhaus, ac ebe fe:

"Mae'n dda gennyf ddeall, Miss Trefor, nad ydych yn fy nghasáu yn awr, a mi fyddaf yn hollol fodlon i gael fy nghasáu ryw dro eto fel rhan ohonoch chi'ch hun—mi gymeraf y risk."

"Mae'n fwy o risk nag yr ydech chi wedi'i ddychmygu, Mr. Huws, caech achos i edifarhau am eich oes. A