Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/290

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ond bu ei aflwyddiant gyda Miss Trefor yn achlysur i gynhyrfu gwaelodion ei natur. Ac yr oedd hynny'n ddigon naturiol, oblegid nid oes dim a bair i ddyn deimlo fel pe bai 'n cael ei flingo'n fyw, fel cael ei wrthod gan ferch. Ac, o drugaredd, anfynych y digwydd y fath beth, canys y mae dynion, fel rheol, yn gall, ac fel y dyn da pan oedd yn cyfansoddi'r Rhodd Mam, yn gwybod yr ateb cyn gofyn y cwestiwn. A dyna lle camgymerodd Enoc—dylasai wybod yr ateb cyn gofyn y cwestiwn. Mae tipyn o hunan—barch yn y dyn mwyaf gostyngedig ac iselfryd, ac nid oes eisiau ond sathru ar ei droed i gael hynny allan. Mae sathru ar ei gorn yn gwneud iddo gau ei ddwrn y munud hwnnw. Ychydig o ddynion, yr wyf yn meddwl, oedd wedi meddwl llai ohonynt eu hunain, ac amdanynt eu hunain, nag Enoc Huws, ond bu gwaith Miss Trefor yn ei wrthod fel darpar gŵr, yn foddion iddo dreulio tipyn o amser i'w fesur a'i bwyso'i hunan. Ac wedi iddo wneud hyn, y casgliad y daeth iddo oedd ei fod yn well dyn nag yr oedd wedi tybied. ei fod. Barnai Enoc yn gydwybodol nad ydoedd yn ffŵl—nad ydoedd, o ran ymddangosiad, yn ddirmygedig— ei fod, mewn ystyr fydol, yn weddol gyfforddus,—o ran safle yn y dref, yn symol barchus—ac na buasai raid i Miss Trefor wrth dderbyn ei gynigiad "ddringo i lawr." Penderfynodd—ac yr oedd y penderfyniad hwn yn beth mawr iddo ef—syrthio ar ei anrhydedd, a gwnaeth lw yn ei fynwes nad âi byth mwy i Dy'n yr Ardd heb ei ofyn. Nid oedd y llw yn golygu—oblegid yr oedd ef yn gofalu am gael perffaith ddealltwriaeth rhyngddo ac ef ei hun—na byddai iddo ei gynnig ei hun eilwaith it Miss Trefor ryw dro,—yn wir, nid oedd ef eto'n ddi-obaith am lwyddo yn ei gais yn y man. Nid oedd y llw ond math o deyrnged ddyledus i'w urddas clwyfedig. Ac wrth roddi'r llw mewn gweithrediad, teimlai ei fod yn gofyn aberth mawr ar ei ran, a theimlai rhywun arall hefyd rywbeth oddi wrtho, ond ni wyddai ef mo hynny. Cadwodd Enoc ei lw am—wel, cawn weled am ba hyd.