Rhaid cydnabod, er mai anfynych yr âi Enoc dros hiniog ei dŷ y pryd hynny, fod ei ysbryd yn fwy presennol nag erioed yn Nhy'n yr Ardd. Syrthiodd yn naturiol i'w hen arferiad o fyned, ar ôl swper, i'r offis, gan gymryd arno wrth Marged fod ganddo fusnes" i'w wneud. Yno yr arhosai am oriau bob nos, a'r unig "fusnes" a wnâi oedd mygu yn ddibaid, gan nodio a phoeri, fel cynt, yn sarcastic i lygad y tân. Ped ysgrifennid pob ymson a hunan—ymddiddan a fu yn yr offis y nosweithiau hynny, gwnaethent gyfrol drwchus.
I dorri tipyn ar unrhywiaeth ei fyfyrodau, daeth priodas Marged a Tom Solet ar warthaf Enoc heb iddo ddisgwyl. Mae'n wir fod Marged wedi crybwyll fwy nag unwaith am yr amgylchiad—megis drwy ei atgofio ei fod wedi addo rhoi'r brecwest, ac wedyn drwy ofyn iddo beth a gâi hi baratoi ar gyfer y brecwest, a phwy a pha nifer y câi hi eu gwahodd i ddyfod i'r wledd. Rhoddodd Enoc gennad iddi wneud fel y mynnai, ac i wahodd y neb a fynnai, ac ni feddyliodd fwy am y peth. Mor absennol ei feddwl oedd fel na lwyr sylweddolodd fod Marged yn mynd i'w adael, nes iddi hi, y prynhawn o flaen y briodas, ei wahodd i'r gegin gefn i weled â'i lygaid ei hun y darpariaethau. Yno yr oedd cwpl o gywion, ham gartre, tafod eidion, a lwmp o biff wedi eu coginio ac wedi oeri—y cywion wedi eu gwisgo â phersli, a mwnwgl yr ham wedi ei addurno â phapur gwyn a phinc yn ddestlus ddigon. Ni ddychmygasai Enoc y buasai Marged yn cymryd mantais ar y caniatâd a roesai iddi i fynd "i mewn" am bethau fel hyn. am bethau fel hyn. Ond er y gwyddai fod y cwbl ar ei gost ef ei hun, nid oedd ei galon yn gwarafun, oblegid credai Enoc fod yr hyn oedd yn werth ei wneud o gwbl, yn werth ei wneud yn iawn. Pan welodd Enoc y danteithion, gwenodd—y wên gyntaf fu ar ei wyneb ers dyddiau rai, ac ebe fe:
"Pwy fu'n cwcio i chi, Marged?"
"Y fi fy hun, debyg," ebe Marged. Ac ebe Enoc yn ei frest: "Lle bo ewyllys bydd gallu—welais i 'rioed