Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/292

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

moni'n troi pethau allan fel hyn o'r blaen," ac ychwanegodd, gan fwriadu i'r gair fod dipyn yn frathlym: 'Rydech chi wedi anghofio un peth pwysig, Marged,—lle mae'r gacen briodas?"

"Na, nid anghofio ddaru mi, mistar, ond 'doeddwn i ddim yn licio cymryd hyfdra i ordro gormod o bethe, a 'ddyliwn 'i bod hi'n rhy hwyr yrwan?" ebe Marged.

"Mae'n debyg ei bod rhaid i ni drio gwneud heb yr un," ebe Enoc, ac ychwanegodd: "Pwy sy'n dwad i fwyta'r pethe 'ma i gyd, Marged?"

"Wel," ebe Marged, "dene fi, a Tom, a chithe, a Betsi Pwel, a Robert Jones, a chithe, a'r dynion yn y siop, 'ddyliwn, a finne. O! mi fydd yma lot ohonom ni, a dene Tom hefyd."

"Fe ddylech," ebe Enoc, "ar bob cyfrif, ofyn i Mr. Brown, y person, ddwad yma, a Hugh, y clochydd, mae o wedi claddu llawer yn ei oes, a Jones, y plismon, ac, yn enwedig, Didymus, y reporter, ne' chewch chi ddim report o'r briodas yn y papur newydd."

"Mi faswn yn licio'n arw i'r hanes fod yn y papur newydd, ond fûm i 'rioed yn siarad efo Didymus," ebe Marged.

"Wel," ebe Enoc, "mi ofynna i i Didymus a Jones y plismon, a gofynnwch chithe i'r lleill, ac oni bai ei bod wedi myned yn rhy ddiweddar, mi faswn yn gwâdd Chairman y Local Board a Lord Lieutenant of the County. Mae Lord Mostyn a Syr Watcyn ar y cyfandir, neu fase fo harm yn y byd gofyn iddyn nhwthe!'

"Ffasiwn biti!" ebe Marged.

"'Does mo'r help," ebe Enoc, gydag wyneb difrif. 'Doedd o gamp yn y byd iddo gadw wyneb o'r fath y dyddiau hynny.

"'Rydech chi'n dallt, mistar," ebe Marged, pan oedd Enoc yn cychwyn ymaith, "mai chi fydd yn fy rhoi i?"

"Be 'dech chi'n i ddeud, Marged?" ebe Enoc, ac yr oedd ei wyneb yn ddifrif mewn gwirionedd erbyn hyn.