hyn, ac wedi'ch gneud ych hun yn barod mor fuan," ebe Enoc.
"Do, memo diar," ebe Marged, ond yr ydw i wedi codi er pedwar o'r gloch ar gloc y llofft, a ma hwnnw hanner awr rhy fuan, a roedd popeth yn barod cyn i Betsi ddwad, a phryd y daethoch chi, Betsi?
"Hanner awr wedi pump ar y dre," ebe Betsi.
"Rhai garw ydech chi; mi liciwn i allu bod mor effro yn y bore," ebe Enoc.
Mi 'i gwranta chi y byddwch chi'n ddigon effro y bore y byddwch chi a Miss Trefor yn mynd i'ch priodi, oni fydd o, Betsi?" ebe Marged.
"Rhowch i mi 'paned o de, da chi, Marged, achos 'rydw i'n teimlo 'reit bethma," ebe Enoc.
"Wel, ond oes ma 'paned yn gweitied amdanoch chi ers awr, mistar. Ond cofiwch na chewch chi ddim ond rhw ddeilen o frechdan efo hi ne fedrwch chi ddim myjoyio'ch brecwest pan ddown ni'n ôl o'r Eglwys," ebe Marged yn fêl ac yn fefus. "A 'rwan," ebe hi ar ôl tywallt y te i Enoc, "wrth fod Betsi'n byw yn ymyl yr Eglwys, mi awn ni yno, a mi ddowch chithe i'r Eglwys erbyn y canith y gloch wyth, oni ddowch chi, mistar?
"Dof, wrth gwrs," ebe Enoc, ac aeth Marged a Betsi ymaith.
Yfodd Enoc "y 'paned te" heb gyffwrdd â'r ddeilen frechdan. Yna llwythodd ei bibell,—oblegid yr oedd digon o amser i gael mygyn cyn mynd i'r Eglwys, ac eisteddodd mewn cadair esmwyth o flaen y tân braf. Teimlai'n enbyd o gysglyd, ac felly y gallai, canys nid oedd, fel y dywedwyd, wedi cysgu ond ychydig ers wythnosau, ac nid oedd o un diben mynd i'r Eglwys yn rhy fuan. Dechreuodd Enoc ei fygyn, a synfyfyrio, a chollodd ei dân. Taniodd ei bibell wedyn ac wedyn—syrthiodd ei ên ar ei frest, syrthiodd ei bibell o'i law, ac yna—wel, cysgodd yn drwm. Deffrowyd ef gan ran—tan ar y drws. Neidiodd Enoc ar ei draed—edrychodd ar y cloc—chwarter wedi wyth! Trawodd ei het am ei ben