Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/300

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a rhuthrodd i'r drws. Jones y Plismon, oedd yno wedi dyfod i'w nôl, ac yn protestio bod Marged agos â mynd i ffit, a Mr. Brown yn tyngu nad âi ymlaen gyda'r gwasanaeth os na ddeuai Enoc i "roi" Marged. Brasgamodd Jones ac Enoc tua'r Llan. Aeth Jones i'r festri i hysbysu Mr. Brown am ddyfodiad Enoc, ac aeth Enoc rhag ei flaen at yr allor. Ar un edrychiad gwelodd Enoc fwy nag yr oedd wedi bargeinio amdano. Yr oedd yn yr hen Eglwys o gant a hanner i ddeucant o bobl wedi dyfod i weled y seremoni, a phob un yn wên o glust bwygilydd, ac yn cil-chwerthin yn ddireidus. Ond yn fwy amlwg na phawb yn ymyl yr allor, ac yn edrych yn bryderus am ei ddyfodiad, gwelai Enoc wyneb Marged fel llawn lloned a chyn goched â chrib y ceiliog. Ni wyddai Enoc pa beth i'w wneud gan gywilydd, a chwysodd yn ddiferol, ac wedi eistedd yng nghymdogaeth yr allor, tynnodd ei law trwy ei wallt a chafodd ei fod fel cadach llestri gan chwys. Yn union deg daeth Mr. Brown ymlaen yn ei wisg glerigol, ac er ei fod, erbyn hyn, yn bedwar ugain oed, edrychai'n llyfndew a grasol. Yr oedd direidi diniwed lond ei lygaid y bore hwnnw. Cymerodd Mr. Brown drafferth i osod y cwmni mewn trefn, ac o dosturi at Enoc, gosododd Mr. Brown ef â'i gefn at y gynulleidfa. Teimlai Enoc yn ddiolchgar iawn iddo. Er cymaint oedd ffwdan Enoc, ni allai beidio â sylwi ar y dirfawr wahaniaeth oedd yng ngwisgoedd y briodas. Yr oedd Marged a Betsi Pwel wedi eu gwisgo mewn gwyrdd newydd danlli o liw porfa, a'u boneti o liw cyffelyb wedi eu trimio yn drwm â choch—mor goch nes codi cur ym mhen Enoc wrth edrych arno. Yr oedd Robert Jones, y gwas priodas, oedd yntau yn gweithio dan y Local Board, mewn côt a gwasgod o stwff cartre wedi ei weu yng Nghaerwys, ac wedi gweled ambell aeaf, a thrywser melyn, yn dechrau duo tua'i benliniau prawf eglur mai yn y trywser hwn yr âi Robert i'r capel ar y Sul, ac i'r cyfarfodydd gweddio ganol yr wythnos. Ond y priodfab—Tom Solet—a