gymerodd fwyaf o sylw Enoc. Ystyrid Tom yn dipyn o gybydd, a gwyddai Enoc hynny yn burion. Ond canfu Enoc fod Tom (yn ddiamau ar ôl clywed Jones, y plismon, yn dweud bod gan Marged bres)—mewn trywser cord newydd—balog fawr a botymau corn gwynion arno. Yr oedd y trywser yn rhy hir o dair modfedd, ac wedi ei droi i fyny i'r mesur yn y gwaelod. Chwarae teg i Tom, nid oedd wedi ei roi amdano hyd y bore hwnnw, a pha fodd y gallasai gael ei altro? Am gefn Tom yr oedd côt o blue superfine West of England, a gwasgod o liw caneri a botymau pres arni; a pha beth bynnag oedd eu diffygion—ac nid oeddynt yn berffaith—yr oedd y teiliwr a fu'n eu cynllunio ac yn eu rhoi wrth ei gilydd wedi mynd "i'w aped" ers llawer blwyddyn. Y rhain oedd "côt a gwasgod wedin" Tom pan briododd y wraig gyntaf, ac yr oeddynt erbyn hyn yn gwrando'r wers briodas y pedwerydd tro, ac yn ei medru, yn ddi—amau, cystal â Mr. Brown ei hun. Trawyd Enoc hefyd gan ymddangosiad gwahanol y rhai oedd o'i flaen—yr oedd Marged a Betsi—yn enwedig Marged, â'u hwynebau fel ffwrnes, eto'n ddedwydd iawn. Robert Jones yn welw a difrif fel pe buasai ar ei dreial, a Tom yn eglur fwynhau ei sefyllfa, â'i wyneb tua'r llawr, ac yn edrych dan ei guwch fel mochyn yn bwyta pys. Teimlai Enoc wrthuni ei sefyllfa, a rhyfeddai beth oedd wedi ei lygad—dynnu i'w osod ei hun yn y fath gwmni. Er bod Mr. Brown yn cyflymu dros y wers, ymddangosai'n enbyd o hir i Enoc. Ac eto nid oedd y seremoni heb ryw gymaint o gysur a boddhad iddo. Yr oedd Enoc, fel y gŵyr y darllenydd, yn ŵr haelionus, ac wedi "rhoi" llawer yn ystod ei oes, ond "rhoi" Marged oedd y rhodd fwyaf ewyllysgar a ddaeth erioed o'i galon, a buasai'n dda ganddo fod wedi cael cyfleustra i'w "rhoi" yn gynt pe buasai rhywun wedi ei gofyn. Ni byddai Mr. Brown yn gwastraffu amser ar achlysuron fel hyn, a da gan Enoc oedd cael mynd i'r festri o olwg y gynulleidfa i orffen y busnes, ac i fod yn dyst o X y naill a'r llall. Estynnodd
Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/301
Gwedd