"Mae'ch meistres yn sâl iawn, Kit, ac y mae gan Miss Trefor ddigon o helbul heb feddwl dim amdana i," ebe Enoc.
"Oes, byd a'i gŵyr," ebe Kit, "fwy nag a wyddoch chi. 'Dydi hi ddim wedi tynnu 'ddam dani ers gwn i pryd, a wn i ddim sut mae hi'n gallu dal. A mae gen i ofn na fendith 'meistres byth—mae hi'n od iawn, fel bydae genni hi rwbeth ar 'i meddwl. A mae mistar—'newch chi ddim cymyd arnoch 'mod i'n deud, Mr. Huws? —'dydi o ddim yn actio'n iawn."
"Wel, be mae o'n 'i neud, Kit?" gofynnai Enoc.
"Mae o—'newch chi ddim sôn 'mod i'n deud, Mr. Huws?—mae o'n yfed yn ddychrynllyd ddydd a nos, nes mae o reit wirion, a mae hynny'n fecsio Miss Trefor. Mae acw dŷ rhyfedd i chi, a mae hi wedi gofyn lawer gwaith i mi pryd y gweles i chi, a be ydi'r achos, tybed, nad ydech chi ddim yn dwad acw. Mi wn 'i bod hi'n sâl isio'ch gweld chi, syr."
"Cymerwch ofal, Kit," ebe Enoc, "i beidio â dweud wrth neb fod eich meistar yn yfed. Mae dyn yn gwneud llawer iawn o bethau mewn profedigaeth na ddylai eu gwneud, ac na wnâi ar un adeg arall, ac y mae afiechyd eich meistres, yn ddiame, wedi effeithio yn fawr ar Capten Trefor. Gofalwch, Kit, na ddwedwch chi ddim wrth neb."
"Y fi? 'chymrwn i mo 'mhwyse â deud wrth neb 'blaw chi, achos yr ydech chi fel un o'r teulu, Mr. Huws," ebe Kit.
"Da iawn, Kit, ewch yn ôl yrwan a dwedwch wrth Miss Trefor y dof acw toc," ebe Enoc.
"Mi fydd yn dda ganddi 'ch gweld chi," ebe Kit.
Yr oedd cael clywed rhywbeth oddi wrth Miss Trefor, ac yn enwedig gael gwahoddiad i Dŷ'n yr Ardd, fel eli ar friw i Enoc. Ar yr un pryd, penderfynodd beidio â dangos brys. Er ei fod yn llosgi o eisiau mynd, arhosodd am dros awr cyn cychwyn, a phan aeth, cerddodd yn hamddenol a hunanbarchedigol. Ar hyd y ffordd dyfalai