Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/313

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

honno. Ymhen deng munud yr oedd Kit yn cysgu'n ddistaw ac esmwyth. Ond ni allai Miss Trefor gysgu. Gwyddai fod ei thad yn chwyrnu ar y soffa, er na allai hi ei glywed. Yr oedd distawrwydd ar bopeth, a'r distawrwydd yn llethol iddi. Teimlai'n unig ac ofnus, ac ebe hi:

"Kit, Kit, ydech chi'n cysgu, Kit?"

Nid atebodd Kit, yr oedd hi wedi ymollwng i orffwyso, yr hyn, ar ôl yr holl redeg a mynd a dyfod, a haeddai yn dda. Ymwasgodd Miss Trefor ati, a sisialodd:

"Ie, cwsg Kit, 'dwyt ti, mwy na minnau, wedi cael fawr o orffwys ers wythnosau, a 'rwyt ti'n haeddu llonydd heno. Ond sut na fedrwn i gysgu? O! mae'r distaw—rwydd yma'n 'y nghadw i'n effro. Mor rhyfedd a dieithr ydyw popeth! Mor wahanol oedd popeth yr adeg yma neithiwr y rhedeg i fyny ac i lawr, a 'mam druan efo ni yn fyw, ond yn sâl iawn. Mor ddistaw ydi hi heno! Mor bell y mae hi wedi mynd! O dyn! mi feddylies 'i chlywed hi'r munud yma'n deud: Dyro i mi lymed, 'y ngeneth bach i.' Ai dychmygu 'roeddwn i? 'Rydw i bron yn siŵr i mi 'i chlywed hi. Mi wrandawa 'ngore eto. Gwan ydw i—a ffansïo. Mor anodd ydi credu na ddeudith hi byth yr un gair eto! 'Roedd hi yma gynne—heddiw'r prynhawn. Lle mae hi 'rwan? ie, hi, achos 'does dim ond ei chorff yn y rŵm nesa—lle mae hi? Yn y byd mawr tragwyddol! Lle mae'r byd tragwyddol? Ydi o 'mhell? Ydi hi wedi cyrraedd yno? 'Ddaeth rhwfun i'w nôl hi, i ddangos y ffordd iddi? neu a ydyw ei hysbryd hi'n crwydro ac wedi drysu mewn space? Fydd hi'n crwydro, tybed, am filoedd o flynyddoedd cyn dwad o hyd i'r byd tragwyddol? O! na faswn i wedi aros efo hi hyd i'r munud dwaetha, yn lle mynd i ysgrifennu at Enoc Huws! Hwyrach y base hi yn deud wrtha i os oedd Iesu Grist efo hi. Yr oedd hi'n adrodd yr adnod echnos: Pan elych trwy y dyfroedd, mi a fyddaf gyda thi.' 'Beidiodd o â'i hanghofio hi, tybed? 'Oedd arno fo ddim eisiau bod efo